Ben Davies
Mae Abertawe’n awyddus i dderbyn mwy nag £8 miliwn gan Tottenham am wasanaethau eu cefnwr chwith, Ben Davies.
Yn ôl adroddiadau, mae trafodaethau rhwng y ddau glwb wedi dechrau arafu gan fod Abertawe’n ceisio hawlio mwy o arian am y chwaraewr ifanc lleol.
Roedd adroddiadau ddechrau’r wythnos yn awgrymu bod y ddau glwb eisoes wedi dod i gytundeb.
Pe bai’r ddau glwb yn dod i gytundeb yn y pen draw a bod Davies yn penderfynu symud i Lundain, fe allai cyn-chwaraewr canol-cae Abertawe, Gylfi Sigurdsson ddychwelyd i Gymru.
Mae disgwyl i Tottenham ofyn am £10 miliwn gan Abertawe am Sigurdsson.
Opsiwn arall yw y gallai’r ddau chwaraewr gael eu cyfnewid yn uniongyrchol.
Ond pe bai Sigurdsson yn symud i Abertawe, fe allai olygu bod Michu yn cael ei werthu, gydag adroddiadau’n awgrymu ei fod e wedi cael prawf meddygol gyda chlwb Napoli yn Yr Eidal.
Mae gan Davies dair blynedd yn weddill o’i gytundeb presennol, gafodd ei ymestyn y tymor diwethaf.