Michael Laudrup
Mae cyn-reolwr Abertawe, Michael Laudrup wedi derbyn swydd rheolwr tîm Lekhwiya yn Qatar.
Fe fydd e’n ymuno â’r pencampwyr cenedlaethol, sydd wedi’u lleoli yn ninas Doha, ar gytundeb blwyddyn o hyd.
Mae Laudrup yn barod i fentro i’r byd pêl-droed unwaith eto, wedi iddo ddod i gytundeb ag Abertawe yn dilyn ei ddiswyddo ym mis Chwefror.
Fis diwethaf, awgrymodd Laudrup na fyddai’n dychwelyd i reoli oni bai ei fod e’n cael cytundeb gydag un o glybiau mawr Ewrop neu glwb bach yn rhywle arall yn y byd.