Doedd hyd yn oed Tim Howard a'i farf methu cadw Gwlad Belg allan am byth (llun: AP/Themba Hadebe)
Os aethoch chi i’r gwely’n gynnar neithiwr a methu diwedd gêm Gwlad Belg yn erbyn yr UDA, yna ewch nôl a’i gwylio hi heddiw.

Does gennych chi ddim esgus – nid jyst bod ‘na ddim gemau Cwpan y Byd am ddeuddydd, ond mi roedd hi’n gracer o ornest reit nes y diwedd.

Y Belgiaid gipiodd hi, ond nid cyn rhagor o ddrama hwyr fel yr ydym ni wedi arfer gweld yn y gystadleuaeth eleni bellach yn barod.

Roedd yna rywfaint o debygrwydd rhwng hon a gêm yr Almaen ac Algeria, y ddwy’n gorffen yn ddi-sgôr ond â digonedd o gyffro ynddi.

Y Belgiaid oedd y tîm cryfaf gyda Divock Origi, Eden Hazard, Kevin de Bruyne, Jan Vertonghen, Kevin Mirallas a Romelu Lukaku i gyd yn cadw Tim Howard yn brysur yn y gôl i’r UDA.

Cymaint felly nes i Howard dorri record am y mwyaf o arbediadau erioed mewn gêm Gwpan y Byd, gan atal y Belgiaid bymtheg gwaith a sicrhau heb os mai fo oedd seren y gêm.

Roedd yr UDA hefyd yn gweithio’n galed ac yn llawn egni, gyda Fabian Johnson ac yna DeAndre Yedlin yn fygythiad i lawr yr asgell dde, a Clint Dempsey a Jermaine Jones yn ceisio manteisio ar y cyfleoedd prin ddaeth eu ffordd nhw.

Fe lwyddon nhw i ddal ymlaen nes amser ychwanegol, ond o fewn dwy funud fe sgoriodd Gwlad Belg ar ôl i de Bruyne gael lle i droi yn y cwrt cosbi a saethu.

Wrth i chwarter awr gyntaf yr amser hwnnw ddod i ben fe ddyblodd Lukaku eu mantais, ac roedd hi’n edrych ar ben.

Ond nid felly’r oedd hi – o fewn dau funud roedd yr UDA wedi bachu gôl yn ôl wrth i’r eilydd Julian Green daro foli heibio i Thibaut Courtois.

Am ddeg munud wedyn roedd y bêl yn mynd o un pen i’r llall, wrth i’r UDA geisio unioni’r sgôr a’r Belgiaid geisio torri’n rhydd.

Daeth yr Americaniaid yn agos ddwywaith, gyda Jones yn gyntaf yn procio cyfle fodfeddi heibio i’r postyn, cyn i Courtois arbed yn wych gan Dempsey ar ôl i gic rydd glyfar ei ganfod.

Fe orffennodd hi’n 2-1 ar ddiwedd yr amser ychwanegol, gyda’r Belgiaid drwyddo – ac ar ôl 56 ymdrech at y gôl, gyda 22 o’r rheiny yn taro’r targed, all neb arhosodd fyny i wylio hon gwyno nad oedden nhw wedi gweld gwledd.

Angel yn achub yr Ariannin

Bydd Gwlad Belg yn chwarae’r Ariannin yn rownd yr wyth olaf wedi iddyn nhw drechu’r Swistir yn gynharach yn y dydd – ond roedd angen amser ychwanegol arnyn nhw i wneud hynny hefyd.

Angel di Maria darodd y gôl fuddugol dau funud o’r diwedd ar ôl pas dda gan Lionel Messi, wrth iddi edrych yn fwy a fwy tebygol y byddai’r gêm yn mynd i amser ychwanegol.

Roedd yn berfformiad digon sâl gan y ddau dîm, oedd methu’n lân a chadw meddiant am gyfnodau hir o’r gêm.

Y Swistir gafodd ddau gyfle gorau’r hanner cyntaf a dweud y gwir, gyda Granit Xhaka ac yna Josip Drmic yn methu cyfleoedd y byddwn nhw wedi disgwyl sgorio.

Roedd yr Ariannin eto’n or-ddibynnol ar Messi am eiliad o hud a lledrith, ond gyda dau neu dri chwaraewr o’i gwmpas o hyd doedd ganddo ddim lle i wneud hynny.

Bu di Maria’n wastraffus gyda’r bêl hefyd, a doedd gan Gonzalo Higuain na Ezequiel Lavezzi fawr i’w gynnig chwaith.

Ond gyda’r cloc yn cyrraedd ei derfyn cafodd yr Ariannin gyfle i wrthymosod, gyda Messi’n rhedeg tuag at yr amddiffyn ac yna’n llithro’r bêl i lwybr di Maria am y gôl fuddugol.

Roedd dal amser gan y Swistir i geisio unioni’r sgôr, ac fe darodd Blerim Dzemaili’r postyn cyn gweld y bêl yn adlamu nôl ar ei goes ac yna allan o drwch blewyn.

Fe fethodd Xherdan Shaqiri gic rydd hwyr, gan roi diwedd ar obeithion y Swistir yn y twrnament.

Gemau’r wyth olaf

Ffrainc v Yr Almaen (dydd Gwener, 5.00yp)

Brasil v Colombia (dydd Gwener, 9.00yh)

Yr Ariannin v Gwlad Belg (dydd Sadwrn, 5.00yp)

Yr Iseldiroedd v Costa Rica (dydd Sadwrn, 9.00yh)

Pigion eraill


Y protestiwr ar y cae neithiwr
Yng nghanol gêm Gwlad Belg a’r UDA neithiwr bu rhaid stopio’r chwarae am ychydig funudau wrth i ddyn o’r dorf redeg ar y cae, fel sy’n digwydd o bryd i’w gilydd.

Mae camerâu teledu bellach fel pe bai nhw’n fwriadol yn osgoi dangos y bobl yma bellach, er mwyn peidio rhoi rhagor o sylw iddyn nhw nag y maen nhw’n denu eisoes.

Ond diddorol oedd gweld nad rhyw foi noethlymun yn gwneud o fel rhyw ‘dare’ oedd o, ond dyn â chrys-t yn dangos neges ‘Save Favelas Children’ oedd o.

Tybed ai jyst eisiau osgoi materion cymdeithasol oddi ar y cae oedd y camerâu?

Un person sydd yn sicr ddim yn ceisio osgoi sylw ydi cyfarwyddwr clwb pêl-droed Hajvalia o Kosovo, Xhavit Pacolli.

Mae o wedi cynnig ffordd y gall Luis Suarez osgoi ei waharddiad rhag chwarae am bedwar mis –arwyddo i’w glwb ef, sydd ddim eto’n swyddogol o dan reolaeth FIFA ac felly ddim yn cael eu heffeithio gan y gwaharddiad.

Fodd bynnag, nid yw’n debygol y bydd Lerpwl yn gadael iddo fynd i Kosovo ar fenthyg. Yn un peth dim ond £1,200 y mis all y clwb gynnig tuag at gyflog y chwaraewr, gan dalu £24,000 i Lerpwl hefyd.

“Gan nad ydym ni’n aelodau o FIFA eto, dw i’n meddwl y gall o chwarae yn Kosovo, felly mae gennym ni gynnig y byddwn ni’n anfon i Lerpwl,” meddai’r cyfarwyddwr uchelgeisiol. “Dyma’r uchafswm allwn ni gynnig.”

Yn olaf, fe fyddech chi’n disgwyl y byddai Mauricio Pinilla eisiau anghofio’r gêm rhwng Chile a Brasil mor fuan â phosib, ar ôl iddo daro’r trawst yn y munud olaf yn lle sgorio’r gôl fyddai wedi anfon Chile drwyddo.

Ond mae’r ymosodwr wedi penderfynu dilyn trywydd hollol wahanol – a chael tatŵ o’r digwyddiad ar ei gefn.

Nid y peth olaf fydd o’n ei ddifaru wrth edrych yn ôl dwi’n siŵr: