Cipiodd troellwr llaw chwith Morgannwg, Dean Cosker bum wiced yn ail fatiad Swydd Gaerwrangon heddiw.

Dyma’r trydydd tro i Cosker gyflawni’r gamp y tymor hwn.

Dechreuodd Swydd Gaerwrangon y trydydd diwrnod gyda blaenoriaeth o 130 o rediadau, gyda phedair wiced yn weddill o fatiad Morgannwg.

Daeth batiad cyntaf Morgannwg i ben wedi iddyn nhw gyrraedd 297, diolch yn bennaf i 88 gan Jacques Rudolph, ond fe gawson nhw eu trechu gan droellwr Pacistan, Saeed Ajmal, gipiodd bum wiced am 106.

Pan ddechreuodd ail fatiad Swydd Gaerwrangon, roedd llwyddiant ar unwaith i’r Cymry wrth i Daryl Mitchell golli ei wiced, diolch i ddaliad gan y wicedwr Mark Wallace oddi ar fowlio’r Albanwr Ruaidhri Smith.

Ond tarodd Swydd Gaerwrangon yn ôl gyda phartneriaeth o 123 rhwng seren Lloegr Moeen Ali a batiwr newydd Swydd Gaerwrangon, Richard Oliver, sydd wedi creu argraff ers ymuno o Swydd Amwythig.

Cosker lwyddodd i dorri’r bartneriaeth honno, wrth fowlio Oliver am 65 ac fe ddechreuodd y wicedi gwympo’n gyson wedi hynny.

Moeen Ali oedd y batiwr nesaf i ddychwelyd i’r pafiliwn, wedi’i ddal gan Andrew Salter oddi ar fowlio Cosker am 80.

Tarodd Tom Fell 40 cyn cael ei redeg allan gan Tom Lancefield wrth i Swydd Gaerwrangon gyrraedd 216-4.

Cipiodd Cosker ei drydedd wiced wrth ddal Alex Kervezee gyda’ i goes o flaen y wiced, a chyfanswm Swydd Gaerwrangon bellach yn 227-5.

Dilynodd Tom Kohler-Cadmore yn fuan wedyn, wedi’i ddal gan yr eilydd Will Owen, gan roi pedwaredd wiced i Cosker.

Cwblhaodd Cosker ei gamp wrth i Cosker ddal Joe Leach gyda’i goes o flaen y wiced, wrth i Swydd Gaerwrangon gyrraedd 250-7.

Roedd y wicedwr Ben Cox yn 40 heb fod allan a Jack Shantry yn 24 heb fod allan pan benderfynodd Swydd Gaerwrangon gau’r batiad ar 299-7, gan osod nod o 355 i Forgannwg i ennill ar y diwrnod olaf.

Bydd Morgannwg yn dechrau’r pedwerydd diwrnod heb sgorio, a’r batwyr fydd wrth y llain yw Tom Lancefield a’r noswyliwr Andrew Salter.