Y tîm ar eu ffordd i Derry (llun: @AberystwythTown)
Fel pe bai cefnogwyr Man United heb gael digon o bobl yn gwneud tynnu eu coes am eu tymor sâl diwethaf, mae clwb pêl-droed Aberystwyth nawr wedi ymuno yn yr hwyl.
Yn gynharach heddiw fe drydarodd y clwb lun o’u tîm ar y bws wrth iddyn nhw deithio draw i Ogledd Iwerddon i herio Derry yn rownd ragbrofol cyntaf Cynghrair Ewropa.
Fe enillodd Aberystwyth eu lle yn y gystadleuaeth ar ôl colli i’r Seintiau Newydd yn ffeinal Cwpan Cymru, ac fe fydd eu cymal cyntaf nhw yn erbyn Derry nos Iau.
Ac mae’n amlwg fod y tîm mewn hwyliau da ar y daith, wrth iddyn nhw drydar yn gofyn i Manchester United os oedden nhw ar y ffordd i Ewrop hefyd.
Dydyn nhw ddim, wrth gwrs, a hynny ar ôl tymor siomedig a welodd y cewri’n gorffen yn seithfed yn Uwch Gynghrair Lloegr wrth i’w rheolwr David Moyes gael ei ddiswyddo.
Ond mae’r trydariad gan glwb Aberystwyth wedi mynd yn boblogaidd iawn ar y wefan gymdeithasol, gyda dros 5,000 o bobl yn ei haildrydar o fewn ychydig oriau:
Hey @ManUtd , we are all off to Europe… Are you??? @EuropaLeague pic.twitter.com/xRBdzVTOeK
— Aberystwyth Town FC (@AberystwythTown) July 1, 2014
Nid dyma yw’r tro cyntaf yr haf hwn i Aberystwyth dynnu coes y cewri o Loegr chwaith.
Yr wythnos diwethaf fe drydarodd y clwb lun o’u maes nhw, Coedlan y Parc, a stadiwm Man United, Old Trafford, gan ofyn beth oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau:
Difference between these two grounds? One will host European football this season..one won’t. #ATFC pic.twitter.com/37aavC5c5s
— Aberystwyth Town FC (@AberystwythTown) June 25, 2014
Petai Aberystwyth yn llwyddo i drechu Derry City dros y ddau gymal fe fyddwn nhw’n wynebu Shakhtyor Soligorsk o Felarws yn y rownd nesaf.
Mae Bangor ac Airbus hefyd yn chwarae yn yr un gystadleuaeth yr wythnos hon, gyda Bangor yn herio Stjarnan o Wlad yr Ia ac Airbus yn teithio i Haugesund yn Norwy.
Fe fydd Y Seintiau Newydd hefyd yn chwarae pêl-droed Ewropeaidd yn nes ymlaen yn y mis, pan fyddwn nhw’n herio Slovan Bratislava yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.
Yn y cyfamser, mae Man United wedi bod yn cryfhau eu tîm o dan eu rheolwr newydd Louis Van Gaal wrth iddyn nhw anelu i ddychwelyd i Ewrop y tymor nesaf, gan brynu Ander Herrera a Luke Shaw am gyfanswm o tua £55m.