Phil Kynaston fu yng Ngŵyl Goodwood
Phil Kynaston fu’n ymweld â’r ŵyl foduron enwog dros y penwythnos …

Does ’na’m llawer o achlysuron ble dwi’n gweld codi am 6.00yb yn dderbyniol, ond mae mynd i’r Goodwood Festival of Speed yn sicr yn un. Wedi aros mewn hostel awr i ffwrdd o’r safle (methu cael unrhyw le yn nes am bris resymol!), roeddem wedi parcio ar stad yr Arglwydd March, ger Chichester, erbyn 7.30yb.

Mae Goodwood yn wledd i unrhyw ‘petrolhead’, gyda moduron o bob math yn gwneud sŵn o bob lefel a thôn i’w gweld a chlywed.

Ac nid yn unig ar y ddaear – roedd y Red Arrows a bomiwr Vulcan hefyd yn gwneud arddangosiadau awyr. Ar ben hyn, mae’r digwyddiad yn cael ei fynychu gan nifer o sêr chwaraeon modur ledled y byd.

Un o’r moduron hynaf yno oedd y Mercedes W165, a gymerodd ran mewn un Grand Prix (dwi’n ofalus yma i beidio ei alw’n ras F1, gan nad oedd y bencampwriaeth yn bodoli ar y pryd) yn 1939.

Roedd hi’n hynod ddifyr gwylio’r mecanwyr yn tanio’r car (a’i refio’n fyddarol!) a diddorol i weld, yn sylfaenol, nad oedd dull cychwyn car Grand Prix wedi newid ers bron wyth degawd.


Massa'n cael ei gyfweld
Mae’r penwythnos hefyd yn denu mawrion y campau moduro. Bues i’n ddigon lwcus i gael cip ar Felipe Massa (‘pole-sitter’ mwyaf diweddar F1) a Karun Chandok (chwiliwch amdano ar y we).

Ymysg eraill yno ddydd Sadwrn roedd Lewis Hamilton, Jenson Button a chyn-bencampwyr Ferrari John Surtees a Kimi Raikkonen (a wnaeth rediad i fyny’r allt gyda’i gilydd yn eu ceir buddugol).

Allt Goodwood

Allt Goodwood yw prif atyniad y penwythnos, wrth i yrwyr adnabyddus fynd a’u ceir i fyny’r cwrs 1.16 milltir i ddiddanu’r torfeydd.

Gwyliais i ystod fawr o beiriannau yn herio’r allt, o geir cyn-y-rhyfel, i geir rali, ceir F1 (yn cynnwys nifer o geir Michael Schumacher, wythnosau ar ôl newyddion cadarnhaol am ei gyflwr) a hyd yn oed ceir trydan.


Arddangosfa o geir F1
Roedd y ceir F1 mwyaf diweddar i gyd o gyfnod 2011-12, yn rhannol oherwydd rheolau profi ceir cyfredol a’r ffaith nad ydi sŵn ceir 2014 hanner mor drawiadol.

Petai  hynny ddim yn ddigon, mae yna hefyd gwrs rali gyffrous, lle gwyliais geir o bob cyfnod yn cicio’r llwch i’r awyr.

Y McLaren MP4-13 sy’n dal record yr allt (41.6 eiliad o 1998), ac mae’n annhebygol y caiff  ei guro fyth, gan nad ydi ceir F1 cyfoes yn cael gwneud amserau cystadleuol erbyn hyn oherwydd pryderon diogelwch.

Maen nhw felly yn diddanu’r dorf gyda donuts, sgrech y teiars a chyflymderau sydd dal yn uchel iawn! Sebastian Loeb osododd amser cyflymaf y penwythnos o 44.6 eiliad mewn Peugeot 208 rali.

Fel pob digwyddiad moduro, mae rhai yn gwylio ar gyfer y damweiniau, ac ni chawson nhw eu siomi ddydd Sadwrn. Tarodd cyn-yrrwr BTCC Anthony Reid i mewn i’r ‘Flint Wall’, ar ôl i’r Pencampwr Olympaidd Chris Hoy gael damwain yn gynharach yn y dydd mewn Nissan GT-R Nismo prin.

Roedd yr Albanwr yn amlwg yn mynd ar gyflymder llawer yn rhy uchel i mewn i’r tro cyn iddo daro’r gwellt ar ochr y trac yn galed a difrodi’r car yn sylweddol. Gwell cadw at feics, Chris?

Diwrnod bythgofiadwy! Os cewch chi gyfle, mi fyswn  i yn eich annog i fynd. Mae o wir yn gyfle unigryw i astudio peiriannau a phersonoliaethau chwaraeon modur yn agos ac i’w gwylio yn gwthio’r peiriannau i’r eithaf.

Dyma fideo o rai o uchafbwyntiau’r penwythnos: