Andre Schurrle'n rhwydo'r gôl agoriadol (llun: AP/Sergei Grits)
Roedd y rhan fwyaf o wylwyr (a’r bwcis) yn disgwyl mai neithiwr fyddai noson fwyaf cyfforddus y gystadleuaeth i’r timau mawr, ac y byddai Ffrainc a’r Almaen drwyddo yn gymharol gyfforddus.

Fe gyrhaeddodd y ddau dîm rownd yr wyth olaf yn y diwedd – ble byddwn nhw’n wynebu’i gilydd – ond doedd hi’n sicr ddim yn gyfforddus wrth i Nigeria ac Algeria eu gwthio’r holl ffordd.

I fod yn deg i Ffrainc nhw oedd y tîm cryfaf drwy gydol y gêm, er ei bod hi wedi cymryd tan y 79ain munud iddyn nhw sgorio’u gôl gyntaf o ben Paul Pogba.

Fe ddaeth Olivier Giroud, Karim Benzema a Yohan Cabaye i gyd yn agos at sgorio wrth i Ffrainc geisio rhoi eu hunain ar y blaen.

Ond roedd y Nigeriaid yn fygythiad hefyd, gydag Emmanuel Emenike yn rhwydo’n gynnar ond y gôl ddim yn cael ei chaniatáu, a Peter Odemwingie hefyd yn methu cyfle.

Ar ôl gôl Pogba roedd y rhyddhad yn amlwg i’w weld ar wynebau’r Ffrancwyr, ac fe seliwyd y fuddugoliaeth yn y munud olaf ar ôl i groesiad Mathieu Valbuena adlamu oddi ar Joseph Yobo i’w rwyd ei hun.

Andre’n gwneud yn Schur

Cafodd yr Almaen gêm galetach eto gan Algeria ac roedd yn rhaid iddyn nhw fynd i amser ychwanegol cyn selio buddugoliaeth o 2-1.

I’r rheiny arhosodd fyny i wylio fodd bynnag, fe gafwyd un o’r gemau di-sgôr (wel, ar ôl 90 munud beth bynnag) mwyaf cyffrous erioed yng Nghwpan y Byd mae’n siŵr.

Fe roddodd Algeria’r bêl yn y rhwyd ar ôl deg munud wrth i Islam Slimani benio croesiad hyfryd Faouzi Ghoulam heibio i Manuel Neuer, dim ond i’r llumanwr godi’i fflag am gamsefyll.

Ond roedd yr Algeriaid yn fygythiad parhaol wrth wrthymosod yn erbyn amddiffyn araf yr Almaen, ac roedd yn rhaid i Neuer garlamu allan o’i gwrt cosbi mwy nag unwaith i glirio’r bêl.

Yr Almaenwyr oedd yn pwyso fwyaf ar y cyfan, fodd bynnag, gyda Thomas Muller, Mario Gotze, Mesut Ozil, Toni Kroos, Phillip Lahm a Bastian Schweinsteiger yn methu rhai o’u 28 ergyd ar y gôl.

Ond er gwaethaf ymdrechion lu tuag at ddiwedd y gêm ni aeth y bêl heibio i Rais M’Bohli yn y gôl i Algeria, ac roedd yn rhaid chwarae hanner awr ychwanegol i benderfynu’r enillydd.

O fewn dau funud i’r amser ychwanegol hwnnw fe aeth yr Almaenwyr ar y blaen o’r diwedd, gyda’r eilydd Andre Schurrle’n ei throi hi mewn gyda’i ffêr.

Fe sgoriodd Ozil ail i’r Almaen funud o’r diwedd wrth i Algeria wthio am gôl – ond hyd yn oed ar ôl hynny roedd amser am un arall wrth i Algeria fynd i ben arall y cae yn syth ac Abdelmoumene Djabou’n ei phrocio hi i’r rhwyd.

Dim amser am ail, fodd bynnag, ac felly gyda Nigeria ac Algeria’n gadael y gystadleuaeth neithiwr mae cynrychiolwyr Affrica yng Nghwpan y Byd i gyd allan bellach.

Gemau heddiw

Yr Ariannin v Swistir (5.00yp)

Gwlad Belg v UDA (8.00yh)

Pigion eraill

Rhywfaint o newyddion pryderus i gefnogwyr pêl-droed, wrth i honiadau fod canlyniad un o gemau Cwpan y Byd Cameroon wedi’i drefnu o flaen llaw gael ei wneud mewn papur Almaeneg.

Yn ôl Der Spiegel fe wnaeth Wilson Raj Perumal, dyn sydd wedi’i arestio am drefnu gemau, ddarogan yn gywir y byddai Cameroon yn colli 4-0 ac y byddai un o’u chwaraewyr yn gweld cerdyn coch yn yr hanner cyntaf.

Yn syfrdanol, mae pwyllgor moeseg Cymdeithas Bêl-droed y wlad nawr yn ymchwilio i achosion ‘saith afal drwg’ o fewn y garfan, a hynny’n dilyn beirniadaeth yr hyfforddwr ar ôl y gêm fod rhai o’r chwaraewyr wedi “ymddwyn yn wael iawn” ar y cae.

Un person sydd eisoes yn euog o drosedd, wrth gwrs, ydi Luis Suarez, gafodd ei ganfod yn euog o frathu Giorgio Chiellini o’r Eidal a’i wahardd o bêl-droed am bedwar mis.

Mae Suarez bellach wedi rhyddhau datganiad yn ymddiheuro, gan addo na fydd o byth yn gwneud unrhyw beth o’r fath eto.

Sgwn i a oes gan hynny rywbeth i’w wneud â’r si ddoe nad oedd Barcelona am wneud cynnig i’w brynu o Lerpwl oni bai fod Suarez yn edifar? Tybed wir.

Doedd ymddiheuriad ddim yn ddigon i reolwr De Corea, gyda llaw, wrth i’w dîm ddychwelyd adref ar ôl ymgyrch siomedig yng Nghwpan y Byd.

Cafodd taffi ei daflu ar y tîm wrth iddyn nhw lanio nôl yn y maes awyr – mae’n ymddangos fod ‘dos i fwyta taffi’ yn idiom eitha’ tebyg i ‘cer i grafu’ yng Nghorea.

Un aeth yn styc dros ei eiriau neithiwr oedd Glenn Hoddle, wrth iddo roi ei farn yn stiwdio ITV yn ystod hanner amser ar wrthwynebwyr yr Almaen.

Ond yn hytrach na manylu ar broblemau Algeria, fe benderfynodd mai sianel deledu Al-Jazeera oedd wedi bod yn gwneud camgymeriadau yn yr ail hanner:

Wedi dweud hynny, Algeria yn Arabeg ydi al-jaza’ir – ella mai Hoddle ydi’r un diwylliedig wedi’r cwbl!

Un arall a faglodd yn y gêm honno neithiwr, nid dros ei eiriau ond yn llythrennol, oedd Thomas Muller.

Wrth i’r Almaen anfon rhedwyr dros y bêl wrth gymryd cic rydd, fe benderfynodd Muller wneud hynny mewn ffordd reit anarferol …

Wrth gwrs, petai’r Almaen wedi sgorio’r gic rydd honno, fe fyddai’n stori arall eto!