Owen Williams
Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau fod y canolwr Owen Williams bellach wedi dychwelyd yn ôl i Gymru yn dilyn anaf difrifol i’w wddf a’i gefn.

Derbyniodd Williams yr anaf yn Singapore mewn twrnament rygbi deg bob ochr gyda’r Gleision, gan dderbyn llawdriniaeth yr wythnos diwethaf i wella fertebra gyddfol a madruddyn ei gefn.

Mae bellach wedi cael ei gludo nôl mewn ambiwlans awyr, ac mae wrthi’n cael ei asesu a’i fonitro gan arbenigwyr yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Dyw’r rhanbarth heb gadarnhau pa mor ddifrifol yw’r anaf eto, gan ofyn am breifatrwydd i Owen Williams a’i deulu wrth iddo barhau i wella.

Ond mae’r negeseuon o ddymuniadau da yn parhau i ddod o bob cwr o’r byd rygbi, gyda phobl yn defnyddio’r hashnod #StayStrongForOws ar Twitter i ddangos eu cefnogaeth.

Dywedodd datganiad y Gleision y byddan nhw’n rhannu unrhyw ddiweddariadau pellach ar anaf Owen Williams pan fo hynny’n briodol.