Ben Davies
Mae Tottenham wedi cytuno ar ffi gydag Abertawe am y cefnwr chwith Ben Davies fyddai’n gweld y Cymro yn symud i Lundain am £8m, yn ôl adroddiadau.

Bu sïon ers wythnosau fod Spurs ar ôl y cefnwr sydd wedi ennill deg cap dros Gymru, ac mae’n ymddangos fod y ddau glwb nawr wedi cytuno ar ffi.

Mae Davies nawr wedi teithio i Lundain i drafod manylion personol ei gytundeb gyda Tottenham, yn ôl y Daily Mirror.

Os bydd Davies yn symud i Spurs ef fydd y chwaraewr cyntaf i gael ei werthu gan Abertawe’r haf yma.

Mae’r clwb eisoes wedi arwyddo’r ymosodwr Bafetimbi Gomis am ddim o Lyon, ond mae marc cwestiwn yn parhau dros ddyfodol yr ymosodwyr eraill Wilfried Bony a Michu gydag Abertawe.

Byddai ymadawiad Davies hefyd yn debygol o olygu mwy o gyfleoedd yn y tîm i Neil Taylor, cefnwr chwith arall Cymru a oedd yn ail ddewis i Davies y tymor diwethaf.

Ond mae rhai o gefnogwyr yr Elyrch eisoes wedi mynegi eu pryder nad yw £8m yn ddigon am chwaraewr ifanc disglair o safon Davies, sydd yn 21 oed.

Yn ddiweddar fe dalodd Manchester United £30m am Luke Shaw, cefnwr 18 oed a gafodd ei gynnwys yng ngharfan Lloegr ar gyfer Cwpan y Byd ar ôl tymor disglair gyda Southampton.

Mewn cyd-ddigwyddiad, rheolwr newydd Davies yn Tottenham fydd Mauricio Pochettino, a roddodd gyfle i Shaw ddatblygu’r tymor diwethaf pan oedd wrth y llyw yn Southampton.