Super Cup wrth y Fenai
Mae disgwyl y bydd maint y dorf fydd yn gwylio’r Super Cup yng Nghaerdydd ym mis Awst ar ei uchaf ers i ffurf y gystadleuaeth gael ei newid 16 mlynedd yn ôl.
Heddiw fe gadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod yn disgwyl i bob tocyn yn Stadiwm Dinas Caerdydd gael ei werthu ar gyfer y ffeinal ar 12 Awst.
Bydd Real Madrid a’u seren Gareth Bale yn herio Sevilla ar y noson, ar ôl i Fadrid ennill Cynghrair y Pencampwyr y llynedd a Sevilla ennill Cynghrair Ewropa.
Roedd gan gefnogwyr tan yr wythnos diwethaf i fynegi diddordeb mewn prynu tocynnau, gydag UEFA’n cadarnhau ceisiadau llwyddiannus erbyn 7 Gorffennaf.
Wythnos cyn y dyddiad cau i fynegi diddordeb am y tocynnau, roedd UEFA eisoes wedi cael 25,000 o geisiadau.
Mae dros hanner y ceisiadau terfynol wedi dod gan gefnogwyr o Gymru, gyda nifer o Sbaen a Lloegr hefyd, ac mae ceisiadau wedi dod o 69 gwlad wahanol yn gyfan gwbl.
Bydd hefyd modd i gefnogwyr gael cip ar dlysau’r Super Cup, Cynghrair y Pencampwyr a Chynghrair Ewropa wrth iddi wneud taith o gwmpas Cymru cyn y gêm.
Stadiwm fwyaf ers sbel
Mae Stadiwm Dinas Caerdydd yn dal 28,000 o gefnogwyr, ac fe fydd hyn yn cynyddu i 33,000 unwaith y bydd y gwaith adeiladu presennol wedi’i gwblhau.
Os bydd y stadiwm yn llawn, felly, hon fydd y dorf fwyaf i wylio gêm Super Cup ers 1997, pan oedd y ffeinal yn cael ei gynnal dros ddau gymal yng nghartref pob tîm.
O 1998 ymlaen roedd y gemau i gyd yn cael eu cynnal yn Stade Louis II ym Monaco, sydd yn dal 18,500 o gefnogwyr.
Llynedd oedd y tro cyntaf i UEFA benderfynu symud y ffeinal i wahanol leoliadau, gyda Bayern Munich yn trechu Chelsea o flaen torf o 17,500 yn Eden Arena Prague yng Ngweriniaeth Tsiec.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n gobeithio y bydd cynnal y ffeinal yn llwyddiannus yn hwb i’w hymgyrch nhw i geisio cynnal rhai o gemau Ewro 2020 yng Nghaerdydd hefyd.
Maen nhw wedi rhoi cais i ddefnyddio Stadiwm y Mileniwm ar gyfer y gemau, gydag UEFA’n dewis yr 13 dinas fydd yn ei chynnal o’r 19 sydd wedi ymgeisio ar 19 Medi eleni.
Wrth siarad am werthiant tocynnau’r Super Cup, fe awgrymodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford, fod ganddynt lygad ar Ewro 2020 hefyd.
“Rydw i wrth fy modd fod disgwyl bod tocynnau Super Cup 2014 i gyd am werthu ac yn arbennig o falch fod cyhoedd Cymru wedi dangos cymaint o awch am docynnau,” meddai Jonathan Ford.
“Mae hynny’n anfon neges glir i UEFA fod ein marchnad leol yn medru mwy na chefnogi digwyddiad mawr fel y Super Cup.
“Gall Cymru ddangos ein lletygarwch cynnes i’r byd pêl-droed a dangos hefyd pa mor dda allwn ni gynnal digwyddiadau mawr.”