Huntelaar yn dathlu'r gôl fuddugol (AP/Thenba Hadebe)
Cafwyd digon o ddrama yng ngemau cyntaf rownd 16 olaf Cwpan y Byd dros y penwythnos wrth i Frasil drechu Chile ar giciau o’r smotyn, a Colombia’n curo Uruguay diolch i gôl wefreiddiol James Rodriguez.

Roedd y pwysau felly ar yr Iseldiroedd a Mecsico i gynnal y cyffro, ac fe wnaethon nhw hynny yn sicr hyd yn oed os oedd rhai aros tan y munudau olaf yn Fortaleza.

Yn y gwres llethol fe gafodd y gêm ei chwarae ar dempo araf, ac ni ddigwyddodd llawer yn yr hanner cyntaf heblaw am yr egwyl swyddogol cyntaf am ddiodydd ar ôl rhyw hanner awr.

Ond fe gafodd y Mecsicaniaid dân yn eu boliau o rywle yn ystod yr hanner amser, ac o fewn tri munud i’r ail hanner roedden nhw ar y blaen wedi i Jasper Cillessen yn y gôl fethu â dal ergyd Giovanni dos Santos o bellter.

Ar ôl hynny fe ddechreuodd yr Iseldiroedd roi mwy o bwysau ar eu gwrthwynebwyr, gyda Guillermo Ochoa’n arbed yn wych o ergyd  Stefan de Vrij ac Arjen Robben disgyn yn y cwrt cosbi ond ddim yn cael cic o’r smotyn.

Gyda dau funud i fynd a hithau’n edrych fel petai Mecsico wedi’i chipio hi, fe gododd yr eilydd Klaas-Jan Huntelaar yn uwch na phawb a phenio pas yn ôl i Wesley Sneijder a waldiodd foli bwerus yn syth i’r rhwyd i unioni’r sgôr.

Roedd amser am ddrama hyd yn oed yn hwyrach, fodd bynnag, wrth i Robben ddawnsio mewn i’r cwrt cosbi a chael ei faglu gan Rafael Marquez gydag eiliadau i fynd – a Huntelaar yn camu fyny i rwydo’r gôl fuddugol.

2-1 i’r Iseldiroedd, sydd drwyddo i’r rownd nesaf, a Mecsico ar y ffordd adref er gwaethaf ymdrech lew.

Trasiedi i’r Groegiaid

Doedd patrwm y gêm rhwng Costa Rica a Groeg ddim yn rhy annhebyg i’r ornest yn gynharach yn y dydd, gyda hanner cyntaf di-sgôr ac yna pethau’n cyffroi.

Ar ôl hanner cyntaf digon diflas, rhoddodd Bryan Ruiz Costa Rica ar y blaen wyth munud wedi’r egwyl, gan droi ergyd o ymyl y cwrt cosbi i gornel bellaf y rhwyd.

Fe aeth hi’n ddigon cyffrous ar ôl hynny, wrth i Oscar Duarte weld cerdyn coch am ei ail drosedd felen o’r gêm ac yna’r Groegiaid yn rhoi pedwar ymosodwr ar y cae.

Fe wnaeth Keylor Navas bopeth i geisio achub Costa Rica yn y gôl, ond fe ddaeth drama hwyr unwaith eto wrth i Sokratis Papastathopolous fanteisio ar bêl rydd i’w phrocio hi i’r rhwyd yn yr amser ychwanegol am anafiadau.

Dim gôl hwyr i’w hennill hi yn fan hyn, fodd bynnag, ac felly roedd hanner awr o amser ychwanegol.

Roedd hi’n amlwg fod chwaraewyr y ddau dîm wedi blino erbyn hynny, gyda chyfleoedd yn cael eu methu naill ben o’r cae, ac felly i giciau o’r smotyn yr aeth hi.

Ond os oedd y chwaraewyr wedi blino ni ddangoswyd hynny, gyda phob cic o’r smotyn yn cael ei danio’n berffaith i’r rhwyd – hynny yw, tan i Navas arbed pedwaredd gic y Groegiaid gan Theofanis Gekas.

Michael Umana gamodd fyny i daro pumed Costa Rica i’r rhwyd, a sicrhau mai nhw fydd yn chwarae’r Iseldiroedd yn rownd yr wyth olaf.

Gemau heddiw

Ffrainc v Nigeria (5.00yp)

Yr Almaen v Algeria (9.00yh)

Pigion eraill

Bu tipyn o syndod neithiwr ar ôl y gêm rhwng yr Iseldiroedd a Mecsico ar ôl i Arjen Robben gyfaddef ei fod wedi deifio yn y cwrt cosbi – ond nid am y gic o’r smotyn buddugol.

Yn hytrach, cyfaddefodd ei fod wedi gwneud yn yr hanner cyntaf pan ddisgynnodd i’r llawr, er ei bod hi’n ymddangos fel petai ‘r amddiffynnwr wedi’i gyffwrdd.

Cafodd hwnnw ei anwybyddu gan y dyfarnwr, yn ogystal â baglad honedig ar Robben yn yr ail hanner – ond ni ddangoswyd cerdyn melyn iddo am ‘ddeifio’ chwaith.

Ac yn ôl rheolwr Mecsico, rhoddodd hynny reswm iddo fynd i lawr am y trydydd tro ac ennill y gic o’r smotyn buddugol a anfonodd ei dîm adref.

Sôn am reolwr Mecsico, dyna un cymeriad y bydd llawer ohonom ni’n methu am weddill Cwpan y Byd.

Roedd ei stumiau ar yr ystlys yn werth eu gweld, yn enwedig pan oedd ei dîm yn sgorio neu benderfyniad yn mynd yn eu herbyn.

Dyma fo unwaith eto:

Dim cadarnhad eto ai hwn ydi’i fab o’n dathlu yn yr eisteddle: