Daeth cadarnhad y bore ma y bu farw cyn-chwaraewr a hyfforddwr academi Clwb Criced Swydd Gaerwrangon, Damian D’Oliveira o ganser yn 53 oed.
Bu’n brwydro yn erbyn y salwch ers dros ddwy flynedd.
Cafodd y chwaraewyr wybod am ei farwolaeth ychydig cyn i’r gêm ddechrau yn New Road.
Mae ei dad, Basil yn un o’r chwaraewyr enwocaf yn hanes y sir ac mae ei fab, Brett yn un o chwaraewyr presennol y sir.
Chwaraeodd Damian dros Swydd Gaerwrangon rhwng 1982 a 1995, gan sgorio mwy na 9,000 o rediadau dosbarth cyntaf.
Roedd yn aelod o dîm y sir enillodd y Bencampwriaeth ddwywaith, y gynghrair undydd ddwywaith a Chwpan Benson & Hedges ddwywaith.
Sgoriodd 237 – ei sgôr uchaf erioed – yn erbyn Prifysgol Rhydychen yn 1991, ac fe sgoriodd mwy na 5,000 o rediadau mewn gemau undydd.
Yn ystod ei gyfnod fel cyfarwyddwr yr academi, roedd yn gyfrifol am ddarganfod a meithrin sgiliau’r rhan fwyaf o garfan bresennol y sir.
Mae’n gadael gwraig a thri o feibion.
Mewn teyrnged ar ei dudalen Twitter, dywedodd cyn-fowliwr cyflym Swydd Gaerwrangon a Morgannwg, y Cymro Simon Jones fod D’Oliveira yn “un o’r siort orau, yn hyfforddwr anhygoel, yn ffrind gwych ac mewn cynghrair hollol wahanol fel gŵr bonheddig!”