Mae gobeithion y Cymro, Geraint Thomas, o adennill ei deitl yn bencampwr beiciwr ffyrdd wedi cael hwb heddiw, wrth i Bradley Wiggins dynnu allan o’r British National Road Race oherwydd salwch.
Roedd disgwyl i’r pencampwr Olympaidd, Bradley Wiggins, fynd amdani go iawn wedi iddo golli allan ar gael ei ddewis i rasio’r Tour de France eleni.
Ond fe dynnodd allan o’r ras yn Y Fenni heddiw, gan roi hwb anferth i obeithion Geraint Thomas adennill y teitl enillodd yn 2010.
Bradley Wiggins yw’r ail enw mawr i dynnu allan o’r bencampwriaeth, wedi i Mark Cavendish wneud yr un peth yr wythnos ddiwetha’.