Iolo Cheung
Iolo Cheung sy’n dyfalu…
Dydi ista adra’n gwylio Cwpan y Byd yn absenoldeb Cymru unwaith eto ddim yn brofiad newydd i mi, ac mae ‘na lawer o bobl llawer hŷn na mi allai ddweud yr un peth dwi’n siŵr.
Eleni dwi’n canfod fy hun yn fwy na’r arfer yn pendroni ‘tybed os’, a meddwl sut fuasai Cymru’n gwneud petai ni o’r diwedd wedi llwyddo i gyrraedd y twrnament mawr.
Nid rhyw freuddwyd bell ydi dychmygu y gallwn ni fod wedi cyrraedd Brasil chwaith. Roedden ni ddau ganlyniad da i ffwrdd – gartref v Croatia a ffwrdd v Macedonia – o gyrraedd y gemau ail gyfle, ac fe chwaraeon ni’n ddigon da yn y ddwy gêm yna i fod wedi gallu ennill.
Pwy gafodd Croatia yn y gemau ail gyfle yn y diwedd? Gwlad yr Ia, tîm y curon ni 3-1 ym mis Mawrth.
Ychwanegwch at hynny’r heip – teg neu ddim – oedd wedi adeiladu yn niwedd cyfnod Gary Speed, a dechrau sâl Coleman, a phwy a ŵyr beth allai fod wedi bod.
Ond wrth wylio’r gemau ym Mrasil yr haf hwn, mae’n fy nharo i pa mor bell y tu ôl i lawer o dimau rhyngwladol ydan ni o hyd, a’n bod ni’n wynebu her fawr i drio cyrraedd hyd yn oed yr Ewros yn 2016.
Yn bell tu ôl i’r Belgiaid
Yn ôl y BBC, fe awgrymodd hyfforddwr Cymru Osian Roberts ddoe “nad ydan ni’n bell tu ôl i wledydd fel Gwlad Belg”.
Dwi ddim yn siŵr a ydw i’n cytuno efo hynny – do, mi gawson ni ganlyniad gwych ym Mrwsel llynedd gyda thîm gwan iawn, ond naw gwaith allan o ddeg fe fyddai’r Belgiaid wedi ennill y gêm honno ymhell cyn i Ramsey rwydo i’w gwneud hi’n gyfartal.
Doedd y Belgiaid ddim yn wych yn eu gêm agoriadol yn erbyn Algeria, ond gyda’r cryfder ar eu mainc a’r newid tacteg yn yr ail hanner roedden nhw’n ddigon cryf i ddod nôl i mewn i’r gêm.
Does gan Gymru jyst ddim y math yna o ddyfnder ar hyn o bryd.
O wylio rhai o dimau eraill Cwpan y Byd hyd yn hyn, yr unig rai fyswn i’n hyderus y gallai Cymru guro ydi Cameroon, Nigeria ac Iran (a Groeg a Honduras os ydyn nhw wir mor drychinebus ac yr oedd eu gemau agoriadol yn awgrymu).
Dwi’n siŵr y gallwn ni guro lot mwy na hynny o dimau ar ein dydd, ond wrth gwrs dydi’r dydd yna ddim yn dod yn aml iawn, a dwi’n amau mai ni fyddai’r tîm Ewropeaidd gwanaf yn y gystadleuaeth eleni petai ni wedi bachu lle yno.
Tydi hynny ddim yn fawr o syndod wrth gwrs – ond i’r rheiny sydd yn meddwl ein bod ni ar gyrion dod yn dîm rhyngwladol o safon uchel, fyddwn i ddim yn cyffroi gormod eto.
Tactegau i siwtio
Wedi dweud hynny, mae gan Gymru’r chwaraewyr i fanteisio ar y math o bêl-droed sydd yn cael ei chwarae’n llwyddiannus hyd yn hyn yng Nghwpan y Byd – y symudiad (yn ôl) tuag at total football tempo uchel.
Mae oes tiki taka i’w weld ar ben ar ôl ymgyrch drychinebus Sbaen, ac ar yr olwg gyntaf dydi hynny ddim yn grêt i Gymru sydd wedi trio mabwysiadu steil chwarae o gadw meddiant yn y blynyddoedd diwethaf.
Ond dydi gallu cadw meddiant ddim yn golygu bod rhaid i bob pas fod yn un fyr, cyffyrddiad cyntaf, sy’n cadw’r bêl ar bob cyfrif – beth mae Cymru’n dda yn ei wneud ydi newid y tempo a chwarae hi’n gynt i fyny’r cae ar adegau.
Mae’r math yna o chwarae yn siwtio’n chwaraewr gorau ni, Gareth Bale, yn ogystal â nifer o’r chwaraewyr eraill.
Roedd Gwlad Belg, er enghraifft, yn edrych yn fregus yn erbyn y math yna o ymosodiad yn erbyn Algeria, ac fe allai Cymru’n sicr geisio gwneud yr un peth pan fyddwn ni’n ailymweld â Brwsel ym mis Tachwedd.
Dwi’n edrych ymlaen at weld sut siâp fydd ar Fosnia pan fyddwn nhw’n herio Iran a Nigeria hefyd, timau gwannach na nhw. Yn erbyn yr Ariannin nhw oedd yn eistedd yn ôl a cheisio gwrthymosod, ond dwi’n amau mai Cymru fydd yn y sefyllfa honno ym mis Hydref.
Gobaith yr Ewros
Gyda’r Ewros rŵan yn ymestyn i 24 tîm o 2016 ymlaen, mi fydd o bellach yn haws cyrraedd y rheiny na Chwpan y Byd.
A dwi wir yn edrych ymlaen at yr ymgyrch nesaf, achos gyda bron i hanner timau Ewrop yn cyrraedd y twrnament terfynol mi fydd o’n gyfle da i Gymru brofi’n hunain yn gyson yn erbyn y goreuon mewn sefyllfa pencampwriaeth.
A chymryd, wrth gwrs, ein bod ni’n cyrraedd – os na allwn ni, gyda Gareth Bale ac Aaron Ramsey, fod ymysg yr hanner uchaf o wledydd Ewrop, yna does na’m llawer o obaith i ni fyth ar y llwyfan rhyngwladol.
Mae ‘na ddigon o esiamplau o dimau ‘llai’, unwaith maen nhw’n cyrraedd twrnament, yn syfrdanu timau mwy – tydi’r bwlch rhwng y timau ar y bwrdd uchaf ddim yn gymaint â hynny.
Ond tan ein bod ni’n cyrraedd y bwrdd hwnnw, allwn ni ddim deud ein bod ni ‘bron yr un lefel’ a thimau o’r fath.
Y tro diwethaf i ni guro tîm oedd sydd wedi bod yn agos i dwrnament rhyngwladol yn ddiweddar oedd y Swistir yn 2011 – y tro diwethaf i ni guro un o gewri Ewrop oedd yr Eidal nôl yn 2002.
Felly tan ein bod ni’n dangos y gallwn ni ennill, ac nid jyst cystadlu, yn erbyn timau fel Bosnia a Gwlad Belg, fyddwn ni ddim yno eto.
Ond mae gennym ni’r cynhwysion – yr oll sydd ei angen ydi i Coleman baratoi’r wledd.