Rheolwr Lloegr Roy Hodgson yn pendroni'r cam nesaf (llun: Mike Egerton/PA)
Mae Lloegr ar fin mynd allan o Gwpan y Byd, a hynny ar ôl colli eto o 2-1 neithiwr yn erbyn Uruguay yng Ngrŵp D.

Ymosodwr Lerpwl Luis Suarez sgoriodd y ddwy i’r gwrthwynebwyr, gyda pheniad tuag at ddiwedd yr hanner cyntaf yn rhoi ei dîm ar y blaen.

Daeth Lloegr yn gyfartal gyda chwarter awr i fynd ar ôl i Wayne Rooney rwydo o groesiad Glen Johnson, ei gôl gyntaf mewn Cwpan y Byd.

Ond bum munud o’r diwedd fe gyrhaeddodd Suarez bêl hir oedd wedi adlamu oddi ar ben Steven Gerrard, a thanio’r gôl fuddugol i achub gobeithion Uruguay.

Mae’n rhaid i Loegr nawr obeithio y bydd yr Eidal yn curo Costa Rica heno ac Uruguay nos Fawrth, a hwythau hefyd yn trechu Costa Rica, i gael unrhyw obaith o fynd drwyddo.

Colombia yn y rownd nesaf

Un tîm sydd wedi sicrhau’u lle yn y rownd nesaf yw Colombia, a hynny ar ôl iddyn nhw ennill 2-1 yn erbyn Traeth Ifori neithiwr.

Cafwyd dechrau digon tawel i’r gêm, gyda’r ddwy ochr yn profi’i gilydd ond y sgôr yn 0-0 ar yr egwyl.

Hanner ffordd drwy’r ail hanner fe daniodd Colombia eu cyntaf, wrth i James Rodriguez benio hi i’r rhwyd o gic gornel, a chwe munud yn ddiweddarach dyblodd Juan Quintero eu mantais.

Tair munud yn ddiweddarach fodd bynnag roedd yr Iforiaid yn ôl yn y gêm, wedi i Gervinho redeg heibio i dri chwaraewr a thanio ergyd dda i’r gornel agosaf.

Ond fe lwyddodd Colombia i ddal ymlaen i’r fuddugoliaeth, ac mae’n debygol nawr mai nhw fydd enillwyr Grŵp C.

Gêm gyfartal a ddiflas

Yn ffodus i unrhyw un arhosodd fyny i wylio Siapan a Groeg yn chwarae neithiwr, mae’n reit bosib fod y gêm ei hun wedi’ch anfon chi i gysgu’n gynt na’r disgwyl.

Yr uchafbwynt mae’n siŵr oedd cerdyn coch Kostos Katsouranis ar ddiwedd yr hanner cyntaf, gyda’r canlyniad ddi-sgôr yn cadw gobeithion y ddau dîm o aros yn y twrnament yn fyw.

Wedi dweud hynny roedd Groeg yn edrych yn llawer mwy trefnus nag yr oedden nhw yn erbyn Colombia yn eu gêm gyntaf, gan lwyddo i gadw’r Siapaneaid allan er gwaethaf yr anfantais o chwarae â deg dyn.

Fe gawson nhw gyfleoedd hefyd, gyda Panagiotis Kone a Theofanis Gekas yn methu a darganfod y rhwyd.

Gemau heno

Eidal v Costa Rica (5.00yp)

Swistir v Ffrainc (8.00yh)

Ecwador v Honduras (11.00yh)

Pytiau eraill

Rydan ni eisoes wedi cael gêm ddiflasaf y twrnament, mwyaf tebyg, ar ôl i Iran a Nigeria anfon pawb tu allan i wylio’r glaswellt yn tyfu yn hytrach na’u gêm ddi-sgôr nhw’r noson o’r blaen.

Roedd hyd yn oed golwr Nigeria, Vincent Enyeama, wedi diflasu â’r holl beth, fel mae’r lluniau isod sydd bellach wedi ymddangos yn dangos.

Mae hyd yn oed yn pwyso ar ei bostyn yn gorffwys wrth i Iran ymosod – sôn am cŵl: