Mae Stuart Gallacher wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o’i swydd yn Brif Weithredwr Rygbi Rhanbarthol Cymru.

Bu’n chwaraewr rhyngwladol yn rygbi’r undeb a’r gynghrair a threuliodd 13 o flynyddoedd yn Brif Weithredwr Llanelli ac yna rhanbarth y Scarlets.

Mae’n ymwneud â rygbi ers dros 40 o flynyddoedd, ac yn ystod ei gyfnod wrth y llyw gyda’r Scarlets bu’r rhanbarth yn bencampwyr y Gynghrair Geltaidd ac mewn tair gêm gynderfynol yng Nghwpan Heineken.

Bu’n Brif Weithredwr Rygbi Rhanbarthol Cymru ers 2009, ac ar ei ymddeoliad mae’r dyn 68 oed yn dweud ei fod yn awyddus i dreulio mwy o amser gyda’i deulu.