Warren Gatland
Mae hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi gwneud dau newid ar gyfer yr ail brawf yn erbyn De Affrica, gyda Samson Lee a Josh Turnbull yn dechrau.
Roedd disgwyl y byddai rhai enwau newydd yn cael eu henwi yn y pymtheg cyntaf, ond er gwaethaf galwadau ar i Gatland gynnwys Gareth Davies a James Hook, mae’r ddau ar y fainc.
Mae’n golygu fod Mike Phillips a Dan Biggar yn parhau â’u partneriaeth fel mewnwr a maswr.
Fe gollodd Cymru o 38-16 yn y prawf cyntaf, ac fe fyddwn nhw’n gobeithio gwneud yn iawn am hynny gyda pherfformiad gwell yn Nelspruit ddydd Sadwrn.
Roedd Phillips wedi dweud cyn y cyhoeddiad ei fod yn poeni fod ei le dan fygythiad, gyda Gareth Davies yn un o fewnwyr gorau Ewrop y tymor diwethaf.
Fe wnaeth Matthew Morgan argraff pan ddaeth i’r maes fel eilydd yn y prawf cyntaf, ond lle ar y fainc eto sydd iddo ef.
Tîm Cymru: Liam Williams (Scarlets), Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Racing Metro), George North (Northampton), Dan Biggar (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), Gethin Jenkins (Gleision), Ken Owens (Scarlets), Samson Lee (Scarlets), Luke Charteris (Perpignan), Alun Wyn Jones – capten (Gweilch), Dan Lydiate (Racing Metro), Josh Turnbull (Scarlets), Taulupe Faletau (Dreigiau).
Eilyddion: Matthew Rees (Gleision), Paul James (Bath), Aaron Jarvis (Gweilch), Jake Ball (Scarlets), Dan Baker (Gweilch), Gareth Davies (Scarlets), James Hook (Perpignan), Matthew Morgan (Gweilch).