Y Super Cup ger Afon Menai
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a UEFA wedi cadarnhau heddiw eu bod wedi derbyn dros 25,000 o geisiadau am docynnau ar gyfer y Super Cup ym mis Awst.

Stadiwm Dinas Caerdydd fydd yn cynnal y ffeinal fawr ar 12 Awst rhwng enillwyr Cynghrair y Pencampwyr, Real Madrid, ac enillwyr Cynghrair Ewropa, Sevilla.

Ond nid gêm i’r Sbaenwyr yn unig fydd hi wrth gwrs, gyda hwn yn gyfle unigryw i wylio Gareth Bale yng  Nghymru yn dangos ei ddoniau yng nghrys gwyn Real.

Ac mae’r awch i weld y seren leol yn chwarae dros un o glybiau mwyaf y byd yn amlwg wedi cydio’r dychymyg, gyda bron i hanner y ceisiadau yn dod o Gymru.

Sbaen (27%) a Lloegr (15%) yw’r gwledydd eraill ble mae canran uchel o geisiadau am docynnau wedi dod, gyda rhai o bob cwr o’r byd megis Tsieina, Brasil a Saudi Arabia hefyd yn cyrraedd.

Prawf i Ewro 2020?

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n gobeithio y bydd cynnal y Super Cup yn llwyddiannus yng Nghaerdydd yn hwb i’w hymgais nhw i geisio cynnal rhai o gemau Ewro 2020 yn y ddinas.

Ac yn ôl Prif Weithredwr y Gymdeithas, Jonathan Ford, mae’r ffaith y bydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn debygol o fod yn llawn ar gyfer y gêm yn arwydd o’r awch lleol am bêl-droed o safon.

“Rydym yn gweld galw mawr am docynnau ar gyfer Super Cup 2014 a does fawr o amheuaeth y bydd y tocynnau wedi’u gwerthu allan,” meddai Jonathan Ford.

“Rwy’n arbennig o falch gweld fod bron i hanner y ceisiadau am docynnau wedi dod o bobl sydd yn byw yng Nghymru. Mae hynny’n anfon neges glir i UEFA fod ein marchnad leol wir yn medru cefnogi digwyddiad mawr fel y Super Cup.

“Mae gan Gymru hefyd gyfle gwych i ddangos i deulu pêl-droed y byd pa mor dda rydym ni’n cynnal digwyddiadau mawr.”

Mae modd gwneud cais am docynnau unrhyw bryd cyn 11.00yb ar ddydd Gwener 27 Mehefin, ac yna fe fydd ceisiadau buddugol yn cael eu dewis ar hap.

Gallwch wneud cais am y tocynnau ar wefan UEFA, www.uefa.com.