Dim ond pedwar diwrnod o Gwpan y Byd sydd wedi dod, ond mae’n teimlo fel ein bod ni eisoes wedi cael gwledd o bêl-droed draw ym Mrasil â’r gemau cyntaf heb hyd yn oed orffen eto!

Yn ogystal â llond trol o goliau rydan ni wedi cael ambell i sioc, ambell i ddigwyddiad dadleuol, ac ambell i stori ddoniol o’r gemau hyd yn hyn.

Felly mae criw’r pod pêl-droed yn ôl i edrych yn ôl dros rhai o gemau agoriadol Cwpan y Byd, gyda Rhidian Jones a Rhys Evans yn ymuno ag Owain Schiavone ac Iolo Cheung heddiw.

Mae’r tri’n trafod pa dimau sydd wedi’u cyffroi nhw hyd yn hyn yn ogystal â phwy maen nhw’n disgwyl gweld yn gwneud yn dda ar ôl gwylio’r gemau cyntaf.

Hefyd yn bwnc trafod mae perfformiadau rhai o’r sylwebyddion, y defnydd o dechnoleg ar linell y gôl, a rhai o straeon difyr a doniol y twrnament.

Gallwch hefyd ddarllen asesiad Iolo Cheung o berfformiad Bosnia-Herzegovina, gwrthwynebwyr Cymru yn yr hydref, a gwrando nôl ar ein podlediad ar drothwy’r twrnament.