Cipiodd yr Awstraliad Michael Hogan bum wiced am 58 i Forgannwg ar ail fore’r ornest yn erbyn Swydd Gaint yn ail adran y Bencampwriaeth yn Stadiwm Swalec heddiw.

Dechreuodd yr ymwelwyr y bore ma ar 236-8, wedi i Hogan gipio tair wiced eisoes ar y diwrnod cyntaf.

Wedi iddo gipio wicedi Ben Harmison, Sam Billings ac Adam Ball ddoe, ychwanegodd at ei ffigurau gyda wicedi Mitchell Claydon a Robbie Joseph wrth i fatiad yr ymwelwyr ddod i ben cyn cinio.

Roedd Morgannwg wedi cyrraedd 61-1 erbyn amser cinio, gyda Jacques Rudolph a’r capten Mark Wallace wrth y llain.