Ydi'r tri am weld James Chester yn dechrau'r gêm?
Dim ond naw diwrnod sydd i fynd nes dechrau Cwpan y Byd ym Mrasil, ac i’r 32 tîm sydd wedi cyrraedd yno mae’r cyffro’n dechrau cynyddu.

Ni fydd Cymru’n ymuno â nhw wrth gwrs – gan obeithio mai Ewro 2016 fydd y cyfle o’r diwedd i’r wlad gyrraedd twrnament rhyngwladol.

Ond maen nhw’n chwarae yn erbyn yr Iseldiroedd mewn gêm gyfeillgar nos yfory, gyda’r gic gyntaf am 7.30yh a’r gêm yn fyw ar S4C.

Hon fydd gêm olaf Cymru cyn iddyn nhw ddechrau eu hymgyrch Ewro 2016 yn yr hydref, gyda’r garfan yn methu rhai o’u henwau mawr ar gyfer y trip i Amsterdam.

Dau o’r cefnogwyr fydd yn mynd ar y trip hwnnw yw Iolo Cheung ac Osian Elias, sydd yn ymuno ag Owain Schiavone ar y pod pêl-droed yr wythnos hon i drafod y gêm.

Mae’r tri’n trafod a fydd Gareth Bale yn dilyn olion traed Ryan Giggs wrth barhau i fethu gemau cyfeillgar i Gymru, yn ogystal â dewis yr 11 maen nhw am weld yn dechrau ar y cae i Gymru nos Fercher.

A beth maen nhw’n ei feddwl o’r chwaraewyr newydd mae Caerdydd ac Abertawe wedi arwyddo hyd yn hyn – oes disgwyl i enwau mawr adael yn sgil hynny?