Rhys Hartley
Rhys Hartley sy’n trafod y da a’r drwg diweddar gyda’r tîm cenedlaethol …
I ni gefnogwyr Cymru, mae’r pythefnos d’wetha wedi bod fel si-so. Dechreuodd gyda James Chester yn addo’i deyrngarwch (er yn 25 mlwydd oed) i’n tîm cenedlaethol ac yna’n sgorio gôl agoriadol ffeinal Cwpan yr FA.
Hyn cyn i Aaron Ramsey sgorio’r gôl fuddugol wrth serennu yn Wembley. Roedd pethau yn edrych yn addawol iawn ar gyfer ein dyfodol, wrth i ni edrych ymlaen at y gêm gyfeillgar yn erbyn yr Iseldiroedd.
Yna daeth y siom o golli i’n gelynion, Lloegr, mewn gêm ragbrofol dan-21. Roeddem yn bell ar ei hôl hi ar y noson ond fe lwyddodd y bois ifanc, dibrofiad i gadw’r hen elyn lawr tan yn hwyr yn y gêm.
Rhaid cofio nad oedd sawl chwaraewr pwysig fel Emyr Huws a Jonny Williams ar gael gan fod Chris Coleman wedi’u dewis ar gyfer y brif garfan. Roedd Tom Lawrence – seren newydd Man U – hefyd yn dioddef o anaf.
Ond roedd hi’n braf gweld chwaraewyr megis George Williams a Connor Roberts yn y brif garfan ar ôl gwneud argraff yn erbyn Lloegr.
Agwedd anghywir gan Coleman
Wrth gwrs, mae’n bwysig defnyddio gemau cyfeillgar i roi cyfle i’r rhai ifanc ond pan gafwyd newyddion am y garfan i wynebu’r Iseldiroedd roedd cefnogwyr Cymru mewn sioc. Dim Ramsey, dim Williams, dim Davies. Ein capten presennol a’n cyn-gapten ar goll? Pam?
Er mwyn iddynt orffwys, medd Coleman. Ond gorffwys ar gyfer beth? Mae deufis tan ddechrau’r tymor, oni bai bod y tymor wedi’i ymestyn a neb wedi dweud wrtha i. Dyma’r cyfle ola’ sydd gan y tîm cenedlaethol i ddod at ei gilydd cyn gemau cystadleuol yr hydref.
Heb sôn am y ffaith ein bod ni’r cefnogwyr ddim yn ‘gorffwys’, ond yn gwario ein harian i ddilyn y tîm!
Fel wedais i, mae’n bwysig rhoi profiad i’r chwaraewyr ifanc ac ry’n ni’n gweld hynny’n dwyn ffrwyth nawr gyda llwyddiant Bale a Ramsey, ond mae hi’n hollbwysig i’r rhai newydd gael ymarfer a chwarae gyda’r sêr.
Mae angen creu undod ymhlith y garfan a theimlad o falchder wrth wisgo’r crys coch. Yn anffodus, doedd sylwadau Coleman wedi i Boaz Myhill ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ddim yn llawer o help.
Yn wir, dywedodd Coleman ei fod yn ‘deall ac yn parchu’ bod rhai pethau yn fwy pwysig. Dylai agwedd ein rheolwr fod yn llawer mwy cadarn.
Bale v Giggs
Dwi o’r farn mai’r crys sy’n eich ymddeol chi, nid y ffordd arall. A gyda charfan gymharol wan a chwaraewyr fel petai’n cael rhwydd hynt i fynd a dod yn ôl eu mympwy, mi allwch weld sut y gall agwedd y tîm gael ei effeithio’n ddifrifol.
Dy’n ni, wrth gwrs, wedi hen arfer gyda’r fath beth – ry’n ni gyd yn cofio dyddiau Toshack.
Fel ambell un yn yr hen ddyddiau, mae Gareth Bale yn awr wedi tynnu nôl o’r garfan. Roedd Cymry ledled y byd, dwi’n siŵr, wedi dathlu ei gôl nos Sadwrn diwethaf wrth iddo sicrhau buddugoliaeth i Real Madrid yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr. Fe wnes i bron a sathru fy mheint dros fy ffrindiau wrth i’r bêl daro cefn y rhwyd.
Chwarae teg, fe chwaraeodd e 120 munud. Ond mae’r disgrifiad amwys, ‘anaf cyhyr y goes’, yn gwneud dim i leddfu ein hofnau y bydd Bale yn troi mas i fod yn Ryan Giggs arall, heb sôn am y ffaith ei fod wedi mynd i Asia’r penwythnos yma er mwyn hybu ei enw ei hun ac ennill 2 filiwn o bunnoedd!
Mae’n rhaid dweud bod record Bale yn barod yn well na un Giggs. Yn yr wyth mlynedd ers ei gêm gyntaf (a’i gôl gyntaf) mae Bale wedi chwarae 44 o weithiau dros ei wlad gan rwydo 12 gôl.
Cymharwch hyn â Giggs, wnaeth chwarae ‘mond 64 o weithiau a sgorio 12 a hynny dros gyfnod o bymtheg mlynedd.
Rhaid cofio hefyd bod Giggs wedi ymddeol o’i wlad saith mlynedd cyn ymddeol o’i glwb. Mae ei record mewn gemau cyfeillgar yn nodweddiadol o yrfa Giggs, hefyd.
Ar ôl ei ymddangosiad cyntaf, methodd Giggs pob gêm gyfeillgar yn yr wyth mlynedd nesaf cyn chwarae yng ngêm agoriadol Stadiwm y Mileniwm. Ar ôl sawl un o’r gemau hyn, chwaraeodd e dros Man U y penwythnos canlynol.
Mae Bale, chwarae teg, tan y tro yma, wedi troi lan yn gyson i ni. Cofiwch ei goliau yn erbyn Norwy, Awstria a Gwlad yr Iâ. Rhaid i ni obeithio y bydd e’n parhau i fod yn driw. Dyna fydd un o brif sialensiau Coleman.
Edrych i’r dyfodol
Chwaraewr arall i ymddeol yn ystod y pythefnos d’wetha yw Craig Bellamy. Fe chwaraeodd ran ym mhob ymgyrch ragbrofol yn ystod ei yrfa, er gwaetha ei anafiadau.
Fe sgwennais i nôl ym mis Hydref fy mod yn ddiolchgar iddo am ei gyfaniad. Roedd e’n esiampl wych i’n chwaraewyr ifanc. Roedd hi’n fraint i’w wylio’n rhoi cant y cant bob tro yn y crys coch. A dwi dal yn cicio fy hun am fy mod wedi methu ei hat-tric yn Slofacia!
Wrth edrych ymlaen at yr wythnos nesa’, dyw hi ddim yn dîm rhy wan, jyst yn un dibrofiad. Mae gofyn mawr i chwaraewyr newydd fel Chester a Dummett i sicrhau amddiffyn cryf ac i’r bois bach yng nghanol y cae gadw’r bêl i ffwrdd o’u gwrthwynebwyr enwog.
Ydyn, mae Williams a Huws wedi cael tymhorau gwych yn y Bencampwriaeth ac wedi dangos eu potensial yn y crys coch yn barod. Dyma gyfle euraidd iddyn nhw ddangos eu haeddfedrwydd a phrofi eu cryfder.
Rwy’n mawr obeithio i mi, a’r bron i fil o ffyddloniaid Cymru, gael gweld buddugoliaeth hanesyddol a gorffen y mis si-so yma ar nodyn uchel.