Joe Allen
Joe Allen fydd capten Cymru pan fyddan nhw’n herio’r Iseldiroedd mewn gêm gyfeillgar nos Fercher yn Amsterdam, yn ôl y rheolwr Chris Coleman.
Mae’r capten presennol, Ashley Williams, ymysg y rhai fydd yn methu’r daith oherwydd anaf, yn ogystal â rhai o’r sêr eraill fyddai wedi cael eu hystyried i arwain y tîm megis Aaron Ramsey a Gareth Bale.
Hon fydd y tro cyntaf i Allen, a ddechreuodd ei yrfa yn Abertawe ond sydd bellach yn chwarae i Lerpwl, fod yn gapten ar ei wlad.
Hon fydd gêm gyfeillgar olaf Cymru cyn iddyn nhw ddechrau ar eu hymgyrch Ewro 2016 ym mis Medi.
Mae hefyd yn gêm baratoadol bwysig i’r Iseldiroedd, wrth iddyn nhw hedfan allan i Gwpan y Byd ym Mrasil yn dilyn y gêm hon.
Jack Collison yw’r diweddaraf i dynnu yn ôl o garfan Cymru ag anaf, gyda Coleman eisoes yn wynebu teithio heb Bale, Ramsey a hyd at bump o’i amddiffynwyr rheolaidd.
Ni chafodd Chris Gunter ei gynnwys yn y garfan wreiddiol ond mae nawr wedi’i gynnwys ar ôl rhoi galwad ffôn i Coleman yn dweud ei fod yn holliach o anaf.
Mae enwau newydd ifanc y garfan yn cynnwys y golwr Connor Roberts, yr asgellwr George Williams a’r ymosodwr Tom Lawrence.
Carfan Cymru: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Connor Roberts (Cheltenham), Owain Fôn Williams (Tranmere)
Danny Gabbidon (Crystal Palace), James Chester (Hull), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Richards (Abertawe), Paul Dummett (Newcastle), Declan John (Caerdydd), Lewin Nyatanga (Barnsley), Chris Gunter (Reading)
Joe Allen (Lerpwl), Emyr Huws (Man City), Andy King (Caerlŷr), Joe Ledley (Crystal Palace), Jonathan Williams (Crystal Palace), Owain Tudur Jones (Hibernian), Tom Lawrence (Man United), David Vaughan (Sunderland)
George Williams (Fulham), Hal Robson-Kanu (Reading), Simon Church (Charlton), Jermaine Easter (Millwall)