Mae cymdeithas bêl-droed Awstralia wedi dweud ei bod yn gysylltiedig ag ymchwiliad i honiadau o dwyll yn dilyn cais llwyddiannus Qatar i gynnal Cwpan y Byd yn 2022.
Mae’r pwysau wedi bod yn cynyddu i ail ddechrau’r broses o wneud cais am Gwpan y Byd yn 2022 yn dilyn honiadau ym mhapur newydd The Sunday Times ddoe.
Mae’r papur yn dweud ei fod wedi gweld dogfennau sy’n honni bod cais Qatar wedi bod yn llwyddiannus yn dilyn ymgyrch gudd gan gyn ddirprwy lywydd Fifa yn Qatar, Mohamed bin Hammam. Mae’r Sunday Times yn honni ei fod wedi llwgrwobrwyo uwch swyddogion er mwyn ennyn cefnogaeth i gais Qatar.
Mae’r pwyllgor a wnaeth y cais yn gwadu eu bod nhw wedi twyllo ac y byddan nhw’n cymryd “unrhyw gamau angenrheidiol” i amddiffyn y broses.
Dywedodd Greg Dyke, cadeirydd y Gymdeithas Bêl-droed, wrth Channel 4 News: “Os yw’r dystiolaeth yno, bod y broses wedi bod yn llwgr, yna bydd yn rhaid edrych ar y broses unwaith eto.”