Iolo Cheung
Mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn haeddu clod am eu huchelgais, meddai Iolo Cheung …

Diwedd yr wythnos diwethaf fe gadarnhaodd UEFA fod 19 o wledydd wedi gwneud cais i gynnal cystadleuaeth Ewro 2020 – a Chymru yn eu mysg.

Wrth gwrs, ni fysa gan Gymru gobaith mul o gynnal y gystadleuaeth yn ei ffurf bresennol, ble mae’n rhaid i hyd yn oed gwledydd canolig eu maint rannu’r baich.

Ond gyda UEFA wedi penderfynu yn eu doethineb i gynnal twrnament 2020 mewn 13 dinas wahanol ar draws Ewrop, mae gan Gymru gyfle hanesyddol.

Teithio trafferthus

Dwi dal ddim yn rhy hoff o’r ffurf fydd ar y gystadleuaeth mewn chwe blynedd. Mae’n grêt fod o’n gyfle i wledydd llai i wneud cais i gynnal rhai gemau, fel mae Cymru wedi gwneud.

Mae’r syniad o fynd a’r gystadleuaeth i bob rhan o Ewrop hefyd yn un neis mewn egwyddor.

Ond y gwir ydi y bydd hi’n debygol o fod yn aruthrol o anodd a drud i gefnogwyr ddilyn eu tîm drwy gydol y gystadleuaeth, yn enwedig os ydyn nhw’n mynd yr holl ffordd i’r ffeinal.

Wrth ddychmygu’r drafferth (a’r air miles) o orfod hedfan ar draws y cyfandir ar gyfer pob gêm, dwi’n dechrau amau mai cynllun gan y cwmnïau awyrennau ydi hyn i gyd i neud bach o dosh!

Fe fydd rhywfaint yn cael ei golli hefyd o gael cefnogwyr yn heidio i un neu ddwy wlad ac yn cymysgu â’i gilydd, gyda ffocws pawb yn cael ei hoelio yno am fis.

Alla’i ddychmygu y bydd hi’n dipyn o her i UEFA hefyd gadw llygad ar 13 gwlad yn hytrach nag un pan mae’n dod at sicrhau fod y paratoadau wedi’u cwblhau.

Cyfle Caerdydd

Ond wedi deud hynny mae’n gyfle unigryw i Stadiwm y Mileniwm a Chaerdydd gael cynnal y gystadleuaeth pêl-droed rhyngwladol fwyaf sydd yna ar ôl Cwpan y Byd.

Roedd ‘na sôn yn y gorffennol y bysa Cymru, yr Alban ac Iwerddon yn dod ati i drio cynnal Ewros rywbryd, ond dwi ddim yn rhy obeithiol y gwelwn ni hynny fyth.

Mae’n ymddangos mai ond unwaith y bydd UEFA’n chwarae’r gystadleuaeth gyda chymaint â hyn o wledydd yn cynnal, ac felly mae’n bwysig fod Caerdydd yn cymryd y cyfle.

Ac mae’r achos yn edrych yn un cryf hefyd, gyda llwyth o ddigwyddiadau chwaraeon mawr wedi’u cynnal yn Stadiwm y Mileniwm yn y gorffennol, ac un arall – y Super Cup – yn dod ym mis Awst.

Os all Caerdydd ddelio hefo hanner poblogaeth Cymru yn y ddinas ar ddiwrnod Chwe Gwlad fawr, dwi’n siŵr y gallai ymdopi efo gemau’r Ewros.

Paru fyny

A chyda dim ond chwech o’r 19 gwlad yn wynebu cael eu siomi, mae gan Gymru siawns dda o gynnal gemau mewn yn 2020, fydd yn cynnwys pecyn o dair gêm grŵp ac un o’r 16 neu wyth olaf.

Y gwledydd eraill sydd wedi gwneud cais yw Azerbaijan (Baku), Belarus (Minsk), Gwlad Belg (Brwsel), Bwlgaria (Sofia), Denmarc (Copenhagen), Lloegr (Llundain), Macedonia (Skopje), Yr Almaen (Munich), Hwngari (Budapest), Israel (Jerwsalem), Yr Eidal (Rhufain), Yr Iseldiroedd (Amsterdam), Gweriniaeth Iwerddon (Dulyn), Rwmania (Bucharest), Rwsia (St. Petersburg), Yr Alban (Glasgow), Sbaen (Bilbao), a Sweden (Stockholm).

Yn ogystal, Lloegr a’r Almaen yw’r unig rai o’r rheiny sydd hefyd wedi gwneud cais am y rowndiau cynderfynol a’r ffeinal, fydd i gyd yn yr un lleoliad.

Gyda phob dinas ddim ond yn cynnal tair gêm grŵp byddai felly’n gwneud lot o synnwyr cynnal pob grŵp (chwech ohonyn nhw, 24 tîm) ar draws dau leoliad.

Mae’n golygu pario dinasoedd posib – ac mae hi bron yn sicr y bydd o leiaf dwy wlad o ynysoedd Prydain yn cael eu dewis felly.

Bysa fo’n sicr yn hwyluso pethau i gefnogwyr, o wybod fod gemau grŵp eu tîm, ac o bosib gêm eu rowndiau nesaf, am fod o fewn cyrraedd agos i’w gilydd.

Y chwe phâr posib dwi’n ei weld felly ydi Brwsel/Amsterdam; Copenhagen/Stockholm; Minsk/St. Petersburg; dau allan o Sofia/Skopje/Bucharest; dau allan o Gaerdydd/Dulyn/Glasgow; ac wedyn unai Rhufain/Bilbao neu Baku/Jerwsalem.

Petai Lloegr yn y ffeinal gallai Munich baru gyda Bwdapest fel opsiwn arall, ac os aiff y tair gêm fawr i’r Almaen yna fe fydd Llundain yn cymryd lle un o ddinasoedd ynysoedd Prydain.

Dwi’n meddwl y byddai gan Gymru llawer gwell siawns felly o gael gemau grŵp petai Lloegr yn cael y ffeinal a’r semis.

Yn ogystal, dydw i ddim yn siŵr am Baku ac Israel o ran hwylustod teithio – a tybed a fydd y ffaith fod Rwsia eisoes yn cynnal Cwpan y Byd 2018 yn cyfri yn erbyn St. Petersburg?

Bydd UEFA’n cyhoeddi’r dinasoedd buddugol ym mis Medi, ac mae’n edrych fel bod sialens fwyaf Caerdydd am ddod gan eu cyd-Geltiaid.

Ond eto allai ddim dychmygu UEFA’n gadael i’r 13 gwlad gyrraedd y twrnament terfynol yn awtomatig – felly rhaid i Gymru wneud yn siŵr fod y tîm yn ddigon da ar y cae gyntaf!