Tim Ieuenctid Crymych gyda Chwpan Sir Benfro
Llwyddodd Tîm Ieuenctid Rygbi Crymych i ennill Cwpan Sir Benfro nos Wener mewn gornest agos rhyngddyn nhw a Phenfro – a sicrhau pedwaredd fuddugoliaeth gwpan yn olynol i Dîm yr Wythnos.
Coronwyd tymor gwych i Ieuenctid Crymych gyda buddugoliaeth o 13-7 dros eu gwrthwynebwyr, gyda’r tîm eisoes wedi ennill eu cynghrair a hefyd wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Ieuenctid Cymru.
Fe aeth Crymych 6-0 ar y blaen yn yr hanner cyntaf diolch i ddwy gic gosb gan y maswr Sion Thomas ar faes Hendy-gwyn.
Ac ar ôl cais cynnar yn yr ail hanner gan y bachwr Ifan Phillips, a droswyd gan Thomas, roedd Crymych yn edrych hyd yn oed yn fwy cyfforddus.
Ond fe frwydrodd Penfro yn ôl gan ddefnyddio’r gwynt, gan lwyddo i sgorio cais ddeg munud o’r diwedd i greu diweddglo cyffrous.
Ond llwyddodd Crymych i ddal ymlaen yn y fantais, gyda Phillips yn cael ei enwi’n seren y gêm mewn buddugoliaeth wych i do ifanc y clwb.
Crymych yw’r pedwerydd Tîm yr Wythnos yn olynol i ennill mewn cwpanau, gyda Phontypridd yn dechrau’r rhediad wrth drechu Môr-Ladron Cernyw yn rownd wyth olaf Cwpan Prydain ac Iwerddon.
Ers hynny mae pêl-droedwyr Llanrug a Llambed hefyd wedi ennill cwpanau, y gogleddwyr yn cipio Tlws Cymru a’r tîm o’r canolbarth yn ennill Cwpan Emrys Morgan.
Oes gennych chi gêm fawr o’ch blaenau cyn diwedd y tymor? Cysylltwch â ni er mwyn bod yn Dîm yr Wythnos!
Tîm Crymych – Ifan James, Ifan Phillips, Tomos Evans, Luke Freebury (Josh Macleod), Ryan Bean, Dylan Phillips, Dion Gibby, Guto Davies (capt); Keiran Machin, Sion Thomas, Tomos Phillips, Aaron Tompkinson, Carwyn Vaughan (Elgan Wilson), Carwyn James, Dylan Thomas