Mae’r Gweilch wedi cyhoeddi eu bod wedi arwyddo’r clo Rynier Bernardo ar gytundeb o dair blynedd o dîm Eastern Province Kings yn Ne Affrica.
Fe fydd Bernardo yn ymuno â’r rhanbarth erbyn iddyn nhw ailddechrau ymarfer yn yr haf, gyda’r clo 22 oed yn cystadlu ag Alun Wyn Jones a Lloyd Peers yn yr ail reng.
Llynedd oedd ei flwyddyn gyntaf gyda’r Kings yng nghynghrair Super Rugby, ble chwaraeodd ddeg gwaith, ac mae wedi bod yn rhan o’u tîm eto eleni.
Ef yw’r pedwerydd chwaraewr y mae’r Gweilch eisoes wedi’i arwyddo ar gyfer tymor nesaf, gyda Josh Matavesi o Gaerwrangon a Dan Evans a Sam Parry o’r Dreigiau hefyd ar eu ffordd i Stadiwm Liberty.
Dywedodd Rheolwr Gweithredu Rygbi’r Rhanbarth Andy Lloyd y byddai arwyddo Bernardo’n golygu na fyddai rhaid rhoi chwaraewyr rheng-ôl fel James King a Tyler Aldron yn yr ail reng y tymor nesaf.
“Mae’n ddyn ifanc sydd wedi dewis dod yma am y sialens yn lle aros yn Ne Affrica,” meddai Lloyd ynglŷn â’r clo 22 oed. “Mae’n hadborth yn dweud ei fod yn cael ei ystyried fel Springbok y dyfodol.”
Mae’r Gweilch eisoes wedi cadarnhau fod nifer o chwaraewyr allweddol gan gynnwys Alun Wyn Jones, Sam Lewis, Eli Walker, Jonathan Spratt, Ben John, Ryan Bevington a Dmitri Arhip wedi arwyddo cytundebau newydd gyda’r rhanbarth.