Dave Edwards
Fe sicrhaodd Abertawe y byddan nhw’n chwarae pêl-droed yn yr Uwch Gynghrair unwaith eto’r tymor nesaf gyda buddugoliaeth o 4-1 dros Aston Villa.
Chwaraeodd Ashley Williams a Ben Davies gêm lawn unwaith eto, ac fe orffennodd yr Elyrch gyda thrydydd Cymro yn eu hamddiffyn wrth i Neil Taylor ddod ymlaen fel cefnwr de – arwydd o bethau i ddod efallai?
Doedd hi ddim yn benwythnos cystal i’r un o Gymry eraill yr Uwch Gynghrair, gyda Chaerdydd bron yn siŵr o ddisgyn i’r Bencampwriaeth bellach ar ôl cael crasfa o 4-0 yn Sunderland.
Fe ddaeth Craig Bellamy ymlaen fel eilydd am chwarter awr i geisio achub canlyniad a hithau’n 2-0, ond yn anffodus iddo ef a’r Adar Gleision fe aeth y ddwy gôl hwyr hefyd i gyfeiriad eu gwrthwynebwyr.
Collodd Lerpwl y fantais ar frig yr Uwch Gynghrair hefyd ar ôl cael eu curo 2-0 gan Chelsea, er i Joe Allen chwarae gêm lawn a chael nifer o gyfleoedd da ar y gôl.
Colli 2-0 oedd hanes Joe Ledley a Crystal Palace hefyd, wrth i Man City fanteisio ar y canlyniad yn Anfield i gau’r bwlch ar y brig.
Daeth James Collins ymlaen fel eilydd i West Ham ar ôl hanner awr yn erbyn West Brom ond roedd ei dîm eisoes 1-0 ar ei hôl hi, ac felly yr arhosodd hi.
Yn y Bencampwriaeth fe lithrodd Birmingham i’r tri gwaelod ar ôl colled arall, yn erbyn Leeds o 3-1 y tro yma, gan olygu y bydd tîm Emyr Huws yn cwympo os na chawn nhw ganlyniad yn eu gêm olaf y penwythnos nesaf.
Parhau mewn trwbl mae David Cotterill a Doncaster hefyd ar ôl colli 3-1 i Chris Gunter a Reading, sydd yn aros yn safleoedd y gemau ail gyfle.
Colli o’r un sgôr wnaeth Simon Church a Charlton hefyd, tra llwyddodd Millwall i achub pwynt hwyr yn erbyn QPR gyda Steve Morison yn dod oddi ar y fainc – bydd rhaid i un o’r rhain neu Blackpool golli ar y diwrnod olaf i achub Birmingham.
Ar frig y gynghrair chwaraeodd Andy King 90 munud llawn arall i’r pencampwyr Caerlŷr wrth iddyn nhw ennill 2-0 yn erbyn Huddersfield.
Ond mae gobeithion Jonny Williams yn Ipswich a David Vaughan yn Nottingham Forest o gyrraedd y gemau ail gyfle ar ben ar ôl i’r ddau dîm golli ar y penwythnos.
Yng Nghynghrair Un rhwydodd Dave Edwards unwaith eto wrth i Wolves gael gêm gyfartal yn erbyn Coventry, ei chweched gôl mewn wyth gêm.
Ond fe lithrodd Tranmere i safleoedd y cwymp ar ôl colli 2-0 yn erbyn Leyton Orient, gydag Owain Fôn Williams ac Ash Taylor yn chwarae gemau llawn a Jake Cassidy’n dod i ffwrdd ar yr egwyl.
Fe fydd yn rhaid iddyn nhw nawr gael canlyniad gartref yn erbyn Bradford a gobeithio y bydd Notts County neu Crewe yn colli os ydyn nhw am osgoi mynd i lawr.
Seren yr wythnos: Dave Edwards – mae’r goliau wedi bod yn llifo’n ddiweddar, felly ydi o’n bryd am alwad arall gan Chris Coleman?
Siom yr wythnos: Craig Bellamy – digon o siom yr wythnos hon, ond Bellamy heb wir gael y cyfle i achub Caerdydd o dan Solskjaer.