Daeth gornest Siroedd Llai Cymru yn erbyn Cernyw i ben yng Nghasnewydd heddiw heb i’r un belen gael ei bowlio.
Mae’n golygu bod y ddau dîm yn dechrau’r gystadleuaeth undydd gyda phwynt yr un.
Doedd cyflwr y cae ym Mharc Sbyty ddim yn ddigon da i ddechrau am 11yb, ond roedd y ddau dîm yn obeithiol y byddai modd cwtogi’r ornest i 20 pelawd yr un.
Wrth i ragor o law ddisgyn ar ddechrau’r prynhawn, penderfynodd y dyfarnwyr ganslo’r gêm.