Sunderland 4–0 Caerdydd

Mae gobeithion Caerdydd o aros yn Uwch Gynghrair Lloegr yn prysur ddiflannu wedi iddynt golli oddi cartref yn erbyn Sunderland yn y Stadium of Light brynhawn Sul.

Roedd yr Adar Gleision ddwy gôl ar ei hôl hi ac i lawr i ddeg dyn erbyn yr egwyl yn dilyn cerdyn coch dadleuol Juan Torres Ruiz. Ychwanegodd Sunderland ddwy gôl arall yn yr ail hanner wrth ennill y gêm yn gyfforddus yn y diwedd.

Y tîm cartref ddechreuodd y gêm orau ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf pan rwydodd Connor Wickham y gôl agoriadol gyda pheniad o groesiad Sebastian Larsson.

Yna, daeth trobwynt mawr y gêm ym munud olaf yr hanner pan gafodd Torres Ruiz ei anfon o’r cae ar ôl ildio cic o’r smotyn am drosedd ar Wickham. Efallai fod y cerdyn coch yn un teg ond roedd amheuaeth dros le yn union y digwyddodd y drosedd – yn y cwrt cosbi neu’r tu allan.

Sgoriodd Fabio Borini y gic o’r smotyn ac roedd Sunderland yn gyfforddus ar yr egwyl, ddwy gôl ar y blaen.

Taflodd Caerdydd dri eilydd ymosodol ar y cae yn yr ail gyfnod yn Wilfred Zaha, Kenwyne Jones a Craig Bellamy.

Gadawodd hynny dyllau anorfod yn yr amddiffyn ac fe fanteisiodd Sunderland yn llawn gyda dwy gôl arall yn y chwarter awr olaf i Emanuele Giaccherini a Wickham. Rhwydodd yr eilydd, Giaccherini, i ddechrau yn dilyn pas dda Borini cyn croesi i Wickham benio ei ail ef a phedwaredd ei dîm.

Mae’r canlyniad yn codi Sunderland dros Gaerdydd ac allan o’r tri isaf. Mae’r Adar Gleision ar y llaw arall yn llithro i waelod y tabl gyda dim ond dwy gêm ar ôl ac mae talcen caled iawn bellach yn ei wynebu os am aros yn yr Uwch Gynghrair.

.

Sunderland

Tîm: Mannone, Vergini, Alonso, Cattermole, O’Shea, Brown, Larsson (Giaccherini 73′), Colback (Bridcutt 84′), Wickham, Johnson (Gardner 84′), Borini

Goliau: Wickham 26’, 86’, Bornini [c.o.s.] 45’, Giaccherini 76’

Cardiau Melyn: Vergini 37’, Larsson 54’, Giaccherini 77’, Borini 83’, Gardner 90’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Théophile-Catherine, Fabio (Jones 64′), Medel, Caulker, Torres Ruiz, Cowie (Zaha 45′), Mutch, Campbell (Bellamy 74′), Whittingham, Daehli

Cardiau Melyn: Mutch 36’, Medel 39’, Fabio 53’

Cerdyn Coch: Torres Ruiz 45’

.

Torf: 42, 397