Gêm gyfartal wrth i Forgannwg gyrraedd 250-7 wrth gwrso 321 am fuddugoliaeth. Swydd Gaerlŷr 13 pwynt, Morgannwg 11 pwynt

Diwrnod 4: Swydd Gaerlŷr 179-8 wedi cau’r batiad (Smith 97; Wagg 4-65, Cosker 3-64); Morgannwg 250-7 (Rudolph 63, Walters 57, Goodwin 50; Naik 3-76)

Diwedd Diwrnod 3: Swydd Gaerlŷr 77-1; Morgannwg 359 i gyd allan (Rudolph 65, Rees 72, Wagg 57; Shreck 3-84, Ireland 3-81). Blaenoriaeth i’r tîm cartref o 218

Diwedd Diwrnod 2: Morgannwg: 126-0 (Rudolph 63*, Rees 53*); Swydd Gaerlŷr 500 i gyd allan (O’Brien 133; Wagg 4-107)

Diwedd Diwrnod 1: Swydd Gaerlŷr: 221-4 (Cobb 49*, O’Brien 46*; Wagg 3-68)

Dyfarnwyr: N Cook, J Evans

Galwodd Morgannwg yn gywir a gwahodd Swydd Gaerlŷr i fatio

Rhagflas:

Fe fydd Morgannwg yn gobeithio parhau â’u tymor di-guro wrth iddyn nhw deithio i Grace Road i wynebu Swydd Gaerlŷr heddiw.

Eisoes, maen nhw wedi curo Swydd Surrey ar gae’r Oval ac wedi sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd yn eu dwy ornest gyntaf.

Gorffennodd Swydd Gaerlŷr ar waelod ail adran y Bencampwriaeth y llynedd.

Dim ond un gêm mae’r tîm cartref wedi’i chwarae hyd yma, yn dilyn gohirio’r gêm yn erbyn Swydd Derby oherwydd marwolaeth tad wicedwr Swydd Derby, Tom Poynton mewn damwain car ar noswyl y tymor newydd.

Fe fu’n rhaid i Forgannwg wneud ambell newid i’w carfan ar gyfer y daith i Ddwyrain Canolbarth Lloegr.

Mae Michael Hogan wedi teithio adref i Awstralia ar gyfer genedigaeth ei ail blentyn, tra bo’r chwaraewr ifanc Ruaidhri Smith ar fin sefyll arholiadau ym Mhrifysgol Bryste.

Mae Will Owen, John Glover a David Lloyd wedi cael eu hychwanegu at y garfan.

Fe fydd yr Awstraliad Jim Allenby yn dychwelyd i’r cae lle dechreuodd ei yrfa dosbarth cyntaf yn 2005 cyn symud i Forgannwg bedair blynedd yn ddiweddarach.

Bydd y tîm heb eu capten, y chwaraewr tramor Ramnaresh Sarwan, sydd wedi anafu’i gefn.

Josh Cobb fydd yn gapten yn lle’r batiwr o India’r Gorllewin.

Carfan Morgannwg: Rees, Bragg, Walters, Rudolph, Goodwin, Lloyd, Allenby, Wallace, Wagg, Cosker, Owen, Glover

Carfan Swydd Gaerlŷr: Smith, Boyce, Eckersley, Robson, Cobb, O’Brien, Raine, Taylor, Naik, Ireland, Shreck, Buck