Forest Green 1–1 Wrecsam

Daeth tymor hynod siomedig Wrecsam yn Uwch Gynghrair Skrill i ben gyda gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Forest Green ar New Lawn nos Sadwrn.

Sgoriodd James Norwood i’r tîm cartref yn y chwarter awr cyntaf cyn i’r Dreigiau fwynhau dipyn o’r meddiant a sgorio gôl haeddianol i gipio pwynt yn yr eiliadau olaf.

Pedwar munud ar ddeg oedd ar y cloc pan ddaeth Bradley Jordan o hyd i Norwood yn y cwrt cosbi ac fe gurodd yntau Andrew Coughlin yn y gôl gydag ergyd gywir.

Chwaraeodd Wrecsam yn eithaf da wedi hynny ond llwyddodd eu cyn gôl-geidwad, Sam Russell, i’w cadw allan.

Ond yna, yn y munud olaf cafodd Bradley Reid ei rwystro yn y cwrt cosbi gan Paul White ac fe rwydodd Johnny Hunt o’r smotyn.

Mae Wrecsam yn llithro un safle yn nhabl y Gyngres er gwaethaf y pwynt, gan orffen y tymor, yn siomedig iawn, yn yr ail safle ar bymtheg.

.

Forest Green

Tîm: Russell (White 65′), Oshodi, Hodgkiss, Barry (Taylor 70′), Bennett, Oliver, Norwood, Green, Rodgers, Jordan, Hughes (Wright 86′)

Gôl: Norwood 14’

.

Wrecsam

Tîm: Coughlin, Carrington, Ashton, Harris, Artell, Livesey, Clarke (Reid 66′), Keates, Hunt, Anyinsah (Williams 81′), Bailey-Jones

Gôl: Hunt [c.o.s.] 90’