Dydd Sant Ffolant Hapus i holl garwyr pêl-droed golwg360 heddiw! Gobeithio y bydd rhamant y Cwpan yn gryf y penwythnos hwn gydag amryw o frwydrau personol cyffrous ar y gweill ym mhumed rownd Cwpan yr FA i gydio yn emosiwn y cefnogwyr a’r chwaraewyr.

Man City v Chelsea

Hon fydd gêm y dydd fory heb os, draw yn yr Etihad, rhwng dau glwb sydd yn agos iawn ar frig yr Uwch Gynghrair. Diddorol fydd gweld pa fath o agwedd fydd gan y ddau glwb tuag at y gêm.

Bydd hon yn gêm ddefnyddiol i’r ddau glwb allu darganfod gwendidau’i gilydd, ac efallai y bydd buddugoliaeth seicolegol o fantais tymor hir i ba bynnag glwb sy’n ennill. Mae Chelsea wedi magu tipyn o hyder yn ddiweddar, ac ar frig y gynghrair am y tro o leiaf.

Bydd disgwyl i Man City fod yn wyliadwrus y tro hwn wrth farcio chwaraewyr megis Eden Hazard a Willian ar yr asgell, a ddisgleiriodd y tro diwethaf i’r ddau dîm gwrdd. Mae Chelsea ar dân, a tybed a fydd tro ar fyd os gollai Man City bach o stêm yn sgil y gêm hon?

Dwi’n ei gweld hi’n gyfartal 1-1 y tro hwn, gan orfodi ail gêm yn Stamford Bridge, achos fe fydd Man City yn dynnach yng nghanol cae pnawn fory gydag amddiffyn Chelsea yr un mor gryf ag arfer.

Anelu am yr wyth olaf i ddau Sheffield

Llwyddodd Sheffield United i ennill oddi cartref yn erbyn Fulham yn ail gymal rownd pedwar ar ôl sicrhau gêm gyfartal ym mis Ionawr. Roedd gan United fwy o ysfa am lwyddiant yn y cwpan, gyda Fulham ddim fel petai nhw’n malio taten – goroesi yn yr Uwch Gynghrair yw eu hunig nod bellach.

Nigel Clough wrth gwrs sydd wedi cymryd yr awenau draw yn Bramall Lane. Mae’n rheolwr sy’n bâr o ddwylo saff, ac sydd â phwysau o ran efelychu llwyddiant ei dad fel rheolwr â’i ddawn o ennill cwpanau di-ri.

Nottingham Forest fydd gwrthwynebwyr Sheffield United, felly gall unrhyw beth ddigwydd. Mae llawer yn sôn am statws y clwb fel un sy’n ddigon da ar gyfer y Bencampwriaeth – hyd yn oed yn cnocio ar ddrws yr Uwch Gynghrair.

Gwrthwynebwyr Sheffield Wednesday fydd Charlton. Unwaith eto, cyfle gwych i Wednesday ennill er mwyn cyrraedd yr wyth olaf, gan eu bod nhw’n chwarae gartref. Dyma ramant y cwpan ar ei orau!

Caerdydd ac Abertawe

Bydd yr Elyrch yn wynebu Everton oddi cartref yn Goodison, gyda Chaerdydd yn wynebu Wigan yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Er bod Abertawe wedi dangos gwelliant wrth chwarae fel tîm yn ddiweddar o dan Garry Monk, a chanlyniadau da iawn yn erbyn Caerdydd a Stoke, bydd disgwyl i Everton ennill ddydd Sadwrn.

Er bod Everton wedi colli yn erbyn Lerpwl yn swmpus yn ogystal â gêm allweddol yn erbyn Tottenham, dwi’n dal i gredu y bydd Everton llawer rhy gryf i Abertawe, yn enwedig yn Goodison.

Efallai mai mynd am lwyddiant yn y gwpan fydd eu rheolwr Roberto Martinez y tro hwn, gan fod y bedwerydd safle yn llithro o ddwylo’r Toffees yn reit sydyn nawr wrth i Lerpwl a Spurs fagu momentwm yn ddiweddar.

Bydd disgwyl i’r Gaerdydd ennill yn erbyn Wigan yn eithaf cyfforddus, gyda chwaraewyr newydd fydd wrth gwrs yn ceisio gwneud argraff ar gyfer gweddill y tymor.

Hefyd fe fydd buddugoliaeth arall yn sicr o roi hwb amgen i Gaerdydd wrth iddyn nhw anelu am ragor o lwyddiant ar ddiwedd y tymor.

Ond dyw ennill gemau yn gyfforddus ddim wastad wedi bod yn hawdd i Gaerdydd y tymor hwn – y rhan fwyaf o’r amser maen nhw’n crafu buddugoliaeth o 1-0 neu 2-1. Tybed a ddaw mwy o goliau’r penwythnos hwn gan Kenwyne Jones a Wilfred Zaha? Tybed …

Arsenal v Lerpwl

Nid dyma’r gêm ddelfrydol i Arsenal ar ôl cael crasfa yn Anfield wythnos yn ôl. Ond mae disgwyl i Arsenal ddysgu gwersi yn bendant y dydd Sul hwn yn erbyn Lerpwl.

Dwi ddim yn gweld buddugoliaeth i’r un o’r ddau ddydd Sul – fe fydd hi heb os yn gêm agored iawn, ond yn dal i fod yn eithaf tynn hefyd.

Dw i’n rhagdybio mai’r sgôr fydd 2-2 yn yr Emirates, gyda’r ddau dîm yn gorfod wynebu’i gilydd yn Anfield yn hwyrach.

Fydd yr un o’r rheolwyr yn bles iawn o orfod chwarae yn erbyn ei gilydd unwaith yn rhagor, ond yn teimlo’n ffodus efallai i gael ail gyfle.

Dyma fy rhagolygon ar gyfer y penwythnos hwn felly:.

Sunderland v Southampton: Southampton

Caerdydd v Wigan: Caerdydd

Sheffield Wednesday v Charlton: Sheffield Wednesday

Man City v Chelsea: Cyfartal

Everton v Abertawe: Everton

Sheffield Utd v Nottingham Forest: Sheffield Utd

Arsenal v Lerpwl: Cyfartal

Brighton v Hull: Hull

Ydych chi’n cytuno â chanlyniadau Llywelyn? Trydarwch o ar @Llew5.