George North
Mae George North yn dweud mai’r modd y bydd Cymru’n ymateb i’r golled yn erbyn Iwerddon yr wythnos ddiwetha’, fydd yn dangos pa mor gryf yw’r ysbryd yn y gêm yn erbyn Ffrainc.

“Dw i’n gredwr mawr mewn timau’n ymateb i fethiant,” meddai.

“Mae’n arwydd o dîm da pan mae’n gallu bownsio’n ôl ar ôl colli… a dyna sy’n rhaid i ni ei wneud. Mae’n rhaid i ni ymateb i gêm yr wythnos dwytha’.

“Roedd y golled yn erbyn Iwerddon yn siom anferth,” meddai wedyn.

“Pan wnaethon ni gyfarfod fel carfan ddechrau’r wythnos yma, roedd y teimladau’n dal yn agos iawn dan yr wyneb. Ond mi sbïon ni’n ôl ar y gêm, ar y pethau aeth o’i le, ac mi fuon ni’n trafod.

“Pan ydach chi’n colli, ac wedyn yn sbïo’n ôl ar eich perfformiad a mynd trwyddo fo efo crib mân, mae pawb yn gweld be’ sydd angen ei wneud i wella pethau.

“Dyna ydan ni wedi’i wneud, ac rydan ni wedi bod yn paratoi’n galed ar gyfer gêm Ffrainc.”