Dan Biggar
Mae yna gyfle i’r maswr Dan Biggar a’r mewnwr Rhys Webb greu argraff ar dîm rheoli Cymru yng ngêm y Gweilch ar y Liberty yn erbyn Treviso brynhawn Sul.

Biggar fu’n gwisgo crys rhif 10 Cymru yn ystod cystadleuaeth y chwe tymor yn 2013, ond hyd yn hyn Rhys Priestland sydd wedi chwarae fel maswr yn y tîm cenedlaethol.

Er mwyn rhoi cyfle i Biggar ac i Webb ddechrau’r gêm yn erbyn Treviso mae hyfforddwr cynorthwyol y Gweilch Gruff Rees yn cydnabod bod yn rhaid i rai o’r chwaraewyr eraill ddangos ychydig amynedd i gael eu cyfle yn y tîm.

‘‘Gyda’r chwaraewyr o garfan Cymru yn dychwelyd atom rhaid cofio mai carfan gweddol ifanc sydd gennym.

“Maent yn aeddfedu yn dilyn bob gêm, ac mae llawer o’r rhai sydd wedi chwarae yn absenoldeb y chwaraewyr rhyngwladol yn awyddus iawn i greu argraff.

“Gyda’r chwaraewyr talentog hyn mae yna deimlad cadarnhaol am ddyfodol y rhanbarth a gobeithio bod y cefnogwyr yn cytun a hyn,’’ dywedodd y prif hyfforddwr Steve Tandy.

Ar ôl gwella o’i anaf bydd cyn gapten Cymru Ryan Jones yn dechrau ar y fainc.

Tîm y Gweilch

Olwyr – Sam Davies, Jeff Hassler, Jonathan Spratt (Capten), Ashley Beck, Aisea Natoga, Dan Biggar a Rhys Webb.

Blaenwyr – Ryan Bevington, Scott Baldwin, Aaron Jarvis, Lloyd Peers, James King, Tyler Ardron, Joe Bearman a Sam Lewis.

Eilyddion – Matthew Dwyer, Duncan Jones, Dan Suter, Ryan Jones, Dan Baker, Tom Habberfield, Matthew Morgan a Hanno Dirksen.