Yn dilyn gohirio cystadleuaeth ddiweddara’r byd criced domestig a chanslo cytundebau’r chwaraewyr, Alun Rhys Chivers sy’n ystyried a all y Can Pelen oroesi lle gwnaeth cystadlaethau eraill fethu yn y gorffennol.

Ymhell cyn y cyhoeddiad ddydd Iau diwethaf (Ebrill 30) fod y Can Pelen (The Hundred) wedi cael ei gohirio tan y tymor nesaf, a’r cyhoeddiad pellach heddiw (dydd Mawrth, Mai 5) fod cytundebau’r chwaraewyr wedi’u canslo, roedd yr awdurdodau criced yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn ceisio ateb ers degawdau i’r cwestiwn o sut i adfywio’r gamp a niferoedd cynyddol o ddilynwyr criced – ac eraill – yn galw am dîm cenedlaethol i Gymru.

Gofynnwch i unrhyw un sy’n troi eu trwynau i fyny ar y gêm – neu hyd yn oed y rhai sy’n talu’r mymryn lleia’ o sylw i ambell i sgôr ar y radio yn ystod misoedd yr haf – a’r darlun mwya’ cyffredin gewch chi yw un o ddynion canol oed yn eu deckchairs a’u hetiau gwellt yn deffro o’u trwmgwsg pan fydd wiced yn cwympo neu ergyd dda yn cael ei tharo i’r ffin.

Mae dadl ers tro fod rhaid symud oddi wrth y darlun ystrydebol hwnnw er mwyn sicrhau bod criced yn goroesi yn y tymor hir. Bu sawl ymgais i wneud hynny ar hyd y blynyddoedd – gyda rhai datblygiadau’n fwy llwyddiannus nag eraill. Ond mae’r puryddion, ar y cyfan, yn gwrthwynebu’r ymgais diweddaraf. Felly pa wersi all y Can Pelen eu dysgu o’r rheiny, ac a oes lle yn y tirlun newydd i wireddu’r freuddwyd o dîm Cymru?

Syrcas Kerry Packer – y World Series

Yr un fwya’ dadleuol o’r holl gystadlaethau, mae’n siŵr, oedd yr hyn oedd ‘Syrcas Kerry Packer’, neu’r World Series (1977-79). Fel ffigwr dylanwadol yn y cyfryngau yn Awstralia, manteisiodd Packer ar yr ymdeimlad (cyfiawn ar y cyfan) na châi cricedwyr eu talu digon. Roedd e eisoes wedi ceisio’n aflwyddiannus i ennill hawliau ecsgliwsif i ddarlledu criced traddodiadol ar Channel Nine.

Er i Packer ennill achos llys ar ôl pechu’r awdurdodau criced drwy gudd-weithredu, roedd yn rhaid iddo fod yn ddyfeisgar er mwyn cyfiawnhau cyflwyno rhywbeth newydd – a dyma gyflwyno dillad lliwgar, gemau dan y llifoleuadau a mwy o griced ar y teledu. Felly dyma fan cychwyn y criced ry’n ni wedi dod yn hen gyfarwydd â’i wylio erbyn hyn – ac roedd Viv Richards, Morgannwg gynt, yn eitha’ da hefyd – gan orffen fel yr ail brif sgoriwr yng nghyfnod byr y gêm.

Cricket Max

Dyfeisiodd Martin Crowe, un o fawrion Seland Newydd, ei fersiwn ei hun o griced undydd yn y 1990au, sef Cricket Max – gêm undydd o ddau fatiad yr un, a deg pelawd ym mhob batiad.

Dyma ddyfeisio’r “ergyd rydd” (‘free hit’) – yr egwyddor na all batiwr fod allan oddi ar y belen ar ôl pelen anghyfreithlon – yn ogystal â “pharthau” dyblu sgôr y batiwr. Gallai batiwr sgorio 12 oddi ar un belen wedyn, wrth gwrs. Roedd gan fowlwyr bedair ffon i fowlio atyn nhw yn lle’r tair arferol i gael cryfhau eu sgiliau cywirdeb.

Teithiodd tîm Prydain i Seland Newydd ganol y 1990au cyn i India’r Gorllewin a Phacistan deithio yno ar ddechrau’r ganrif yma, ond barodd y fformat ddim yn hir iawn wedyn – efallai am fod gormod o addasu ar y rheolau ond yn bennaf am fod criced ugain pelawd yn dechrau ennill ei le ar y calendr.

Hong Kong Sixes

Math arall o griced – chwech bob ochr y tro hwn – sydd heb gydio ar raddfa eang ar draws y byd yw’r Hong Kong Sixes. Cafodd gemau eu cynnal rhwng y prif wledydd rhwng 1992 a 1997, ac eto rhwng 2001 a 2012.

Ond wrth orfod cystadlu am nawdd gyda rhai o’r cystadlaethau diweddaraf a mwy cyfoes erbyn 2001, ychydig flynyddoedd barodd hi. Ar ôl dod i ben yn derfynol yn 2012, dim ond unwaith mae hi wedi’i chynnal, a hynny yn 2017.

Power Cricket

Beth am griced mewn stadiwm rygbi? Wel, math arall o griced undydd gafodd fywyd digon byr oedd Power Cricket, a ddaeth i Stadiwm y Mileniwm yn 2002 gyda’r syniad gwallgo’ y byddai’r batiwr yn ceisio taro to’r stadiwm. Cafodd gemau eu rhannu’n ddau fatiad bob ochr o 15 pelawd yr un. Dyma fersiwn fyrra’r gêm cyn dyfodiad criced ugain pelawd.

Y ‘parthau’ y tro hwn oedd gwahanol eisteddleoedd y stadiwm, gydag wyth am gyrraedd yr eisteddle ganol (oedd yn unigryw i’r stadiwm yma), deg am yr eisteddle uchaf, a 12 am daro’r to. Tîm Prydain oedd yn herio Gweddill y Byd, gyda sawl un o gricedwyr Morgannwg yn cymryd rhan.

Ond unwaith eto, methodd y dull hwn o griced â chydio yn nychymyg y cefnogwyr yng nghartre’r tîm rygbi cenedlaethol. Cafodd y digwyddiad ei ganslo yn 2003 oherwydd diffyg diddordeb a gwerthiant tocynnau isel. A oedd criced arloesol, felly, yn bosib yng Nghymru’r bêl hirgron a chron?

Twenty20

Heb amheuaeth, mae’r gêm ugain pelawd – neu Twenty20 – wedi para dipyn hirach nag unrhyw fformat byr arall yn hanes criced, gyda gemau wedi’u cynnal yng Nghymru a Lloegr ers 2003. Ei chyfrinach, efallai, yw fod gemau’n ddigwyddiadau i’r teulu cyfan, i bartïon priodas ac i grwpiau o gydweithwyr ar noson allan – gyda digon o adloniant ar y cae ac oddi arno.

Er yn llawn dyfeisiau’r cystadlaethau blaenorol – dillad lliwgar, gemau o dan y llifoleuadau a chyfyngiadau maesu – mae yma ddigon i rai puryddion hefyd, gyda llai o waith canolbwyntio am gyfnodau hir ar ddiwedd diwrnod gwaith.

Cafodd Cwpan y Byd T20 ei gynnal am y tro cyntaf yn Ne Affrica yn 2007, ac mae cynghreiriau bellach ym mron pob gwlad sy’n chwarae criced. Y mwyaf ohonyn nhw, wrth gwrs, yw’r Big Bash League yn Awstralia a’r IPL yn India – a’r ail yn brawf, yn sicr, fod denu cynulleidfa Asiaidd yn allweddol i roi cystadleuaeth ugain pelawd ar lwyfan byd-eang. Ac mae’n rhywbeth mae’r gêm yng Nghymru’n ceisio’i wneud ers tro.

Beth am griced traddodiadol, felly?

Gyda’r holl ddatblygiadau dros y blynyddoedd, mae perygl i’r awdurdodau anghofio am y dyn canol oed hwnnw mewn trwmgwsg yn ei gadair. Ond mae bellach yn cael ei dderbyn fod rhaid cael y ‘razzmatazz’ er mwyn gwarchod ac ariannu criced i’r dyn hwn a’i debyg.

Bydd gohirio’r Can Pelen yn codi cwestiynau mawr. Gallai’r ymgyrch yn erbyn y Can Pelen godi stêm ymhen blwyddyn, gall fod ganddyn nhw ddadleuon cryfach am wrthwynebu’r gystadleuaeth. Ond rhaid dweud hefyd fod rhaid ei chynnal er mwyn sicrhau digon o arian i’r siroedd oroesi yn y tymor hir – mae denu cynulleidfa’n allweddol, felly.

Ond bydd yn rhaid iddi gystadlu â’r Ewros pêl-droed a’r Gemau Olympaidd am gynulleidfa haf nesaf – a does dim angen bod yn athrylith i ddyfalu p’un o’r rhain fydd y lleia’ poblogaidd, hyd yn oed â’r gystadleuaeth ar ei hanterth ar draws y byd.

Digon o sôn am Loegr a gweddill y byd. Beth am Gymru?

Mae staff Clwb Criced Morgannwg ar gennad erbyn hyn, a fydd dim criced ar lawr gwlad yng Nghymru tan o leia’ fis Gorffennaf. Byddai cynnal y Can Pelen yn 2021 yn galluogi’r sir Gymreig i adennill refeniw coll, a bydd peth arian (mân iawn, mae’n debyg) yn treiddio i’r clybiau lleol – a gêm y merched – ar lawr gwlad trwy gorff Criced Cymru. Y diffyg chwaraewyr o Gymru yng ngharfan tîm Caerdydd, y Tân Cymreig (does yna’r un!), sy’n gwestiwn arall…

Ond yn arwyddocaol, nid pawb sydd eisiau gweld Morgannwg yn llwyddo, chwaith – ar y cyfan, y rheiny sy’n ymgyrchu o blaid tîm criced i Gymru, sy’n bennaf o fewn y mudiad annibyniaeth ac sy’n gweld Criced Cymru a Morgannwg yn rhwystr ar y ffordd. Roedd cryn wrthwynebiad i’r ymgyrch dros y tîm cenedlaethol o fewn yr awdurdodau criced ymhell cyn y coronafeirws – a dim ond dwysáu fydd e o hyn ymlaen, fwy na thebyg. Wedi’r cyfan, sut allai tîm arall gael ei gynnal yn ystod cyfnod mor ansicr yn ariannol? Mae prinder chwaraewyr ar y lefel uchaf yng Nghymru – byddai’n rhaid derbyn mai tîm lled broffesiynol fyddai e yn y dechrau. Sut fyddai’r chwaraewyr wedyn yn gallu cael amser i ffwrdd o’r gwaith i chwarae? Mae angen atebion, ond mae angen i’r ddwy ochr fod yn agored i drafod hefyd.

Ond yn sgil gohirio’r Can Pelen, fe fydd rhaid i griced yn Lloegr (a Chymru yn achos Morgannwg) feddwl yn ofalus ynghylch sut i wrthsefyll y ffaith na fydd y Can Pelen yn cael ei chynnal, a sut fydd modd cynnal y tymor sirol os bydd unrhyw griced o gwbl yn bosib eleni. O barhau i wrthwynebu tîm criced i Gymru, gallai’r awdurdodau fod mewn perygl o golli dilyniant posib ledled y wlad – am ba hyd all hynny ddigwydd? Mae angen i weinyddwyr criced yng Nghymru – hynny yw, Criced Cymru a Morgannwg – feddwl yn ofalus am ddyfodol y gêm, a gwneud hynny tra bo’r tirlun draw yn Lloegr yn newid. A fo ben bid bont.