Mae Gabby Agbonlahor wedi datgelu bod cynnig i chwarae i Wrecsam ymhlith nifer o gynigion “hurt” gafodd e cyn ymddeol.

Daw’r sylwadau yn y Birmingham Mail, wrth iddo ddatgelu pam iddo ymddeol yn 31 oed ar ddiwedd gyrfa’n chwarae i Aston Villa yn unig.

Fe ddigwyddodd ar ôl i’r tîm yng nghanolbarth Lloegr ostwng o’r Uwch Gynghrair i’r Bencampwriaeth.

Mae’n dweud iddo ffraeo â’r rheolwr Roberto Di Matteo, oedd yn awyddus i’w weld e’n gadael y clwb ar ôl sawl digwyddiad oddi ar y cae.

Mae’n dweud iddo geisio ei werthu i Reading neu Glasgow Rangers, a’i fod e wedi dweud wrth y rheolwr y byddai’n aros gyda’r clwb ymhell ar ôl i Di Matteo adael.

Sylwadau

“Dw i ddim yn mynd i unman” oedd ei eiriau wrth ei reolwr, meddai.

“Dyna fy union eiriau yn y swyddfa wrth Di Matteo a’r rheolwr.

“Fe ddywedais i ‘dydych chi ddim am fy ngwthio i allan, dyw hynny ddim yn opsiwn, dw i ddim yn mynd i wisgo crys arall’.

Cafodd Roberto Di Matteo ei ddiswyddo ar ôl 124 o ddiwrnodau yn y swydd.

Chwaraeodd Gabby Agbonlahor 20 o weithiau yn y Bencampwriaeth, ond mae’n cyfaddef nad oedd ei gorff yn ymdopi’n dda â gofynion corfforol y gynghrair yn 31 oed.

“Roedd fy nghorff yn dweud wrtha’i am stopio,” meddai.

“Ar ddiwedd y tymor hwnnw (2017-18), ces i gynigion fan hyn a thramor ac wrth i amser fynd yn ei flaen, aeth y cynigion yn waeth ac yn waeth.

“Fe ddaeth i fis Medi, Hydref, Tachwedd ac yna Ionawr (2019), ac allwch chi ddim disgwyl i’r cynigion fod yn dda.

“Yr unig reswm pam wnes i gyhoeddi fy ymddeoliad oedd fy mod i’n cael cynigion hurt, ac roedd pobol yn dosbarthu fy rhif i.

“Ro’n i’n cael galwadau gan Wrecsam, Solihull Moors… Iawn, roedd rhaid i fi gyhoeddi ym mis Mawrth er mwyn rhoi gwybod i bawb nad o’n i am chwarae eto.

“Roedd cynigion hefyd gan Aberdeen. Dim byd yn erbyn y clybiau hyn, ond do’n i ddim am chwarae i Aberdeen!

“Mae rhai chwaraewyr yn wahanol, a byddan nhw’n mynd i Forest Green i gael chwarae tan bod eu coesau’n gwrthod gweithio eto’n 38 neu’n 39 oed.

“I fi, ro’n i eisiau mynd allan ar lefel uchel, ac ro’n i’n ddyn un clwb. Dwi ddim am symud i lawr y cynghreiriau ac roedd fy nghorff yn dweud wrtha’i ei bod yn bryd [rhoi’r gorau iddi].”