Wrth i’r Saeson hel atgofion di-ri hanner canrif union ar ôl i dîm pêl-droed Lloegr guro Gorllewin yr Almaen yn rownd derfynol Cwpan y Byd, mae gan un Cymro Cymraeg o Felindre ger Abertawe resymau cwbl wahanol am fod ag atgofion melys o Orffennaf 30, 1966. Gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers fu’n sgwrsio â Llywydd Clwb Criced Morgannwg, Alan Jones.
Gorffennaf 30, 1966. Tîm pêl-droed Lloegr yn hawlio sylw’r cyfryngau chwaraeon wrth iddyn nhw godi cwpan Jules Rimet ar ôl trechu Gorllewin yr Almaen yn ffeinal Cwpan y Byd yn Wembley. Pwy (Sais neu beidio) all anghofio’r llun eiconig hwnnw o Bobby Moore – y cwpan yn ei ddwylo – yn cael ei godi i’r awyr gan Geoff Hurst a Ray Wilson? Llun a allai arwain at y cwestiwn, ‘Ble’r oeddech chi pan enillodd Lloegr Gwpan y Byd?’
Dim ond eiliadau fyddai eu hangen ar un o fawrion Clwb Criced Morgannwg i ateb y cwestiwn hwnnw. Ymhell o fwrlwm a phrysurdeb Wembley, roedd Alan Jones yn 27 oed ac ar lan y môr ar gae San Helen, ar ôl taro canred di-guro yn erbyn dau o fowlwyr cyflymaf a ffyrnicaf India’r Gorllewin. Beth, tybed, fyddai Alan Jones, 77 oed, yn ei gofio hanner canrif yn ddiweddarach am ei fatiad o 161 heb fod allan?
“Roedd tîm da gydag India’r Gorllewin yr adeg hynny. Pan wyt ti’n agor y batio, rwyt ti bob amser yn edrych am y bowlwyr cyflym sy’n mynd i chwarae yn dy erbyn di. Wrth gwrs, yn nhîm India’r Gorllewin bryd hynny roedd Wes Hall a Charlie Griffith.”
Roedd y ddau o’r Caribî eisoes wedi dangos yn erbyn Lloegr pa mor ddinistriol oedden nhw, ac fe welodd Alan Jones drosto’i hun pa mor gyflym oedden nhw o 22 llathen i ffwrdd. Er ei fod wedi taro 104 yn erbyn Swydd Essex yn y dyddiau cyn y gêm, efallai nad oedd wynebu’r bowlwyr agoriadol cymharol ddi-nod Tony Jorden a Brian Edmeades yn mynd i’w baratoi ar gyfer yr her o wynebu cyflymdra Griffith a Hall.
“O’n nhw wedi bowlio’n gyflym iawn yn erbyn Lloegr. Ddim yn aml iawn wyt ti’n cael y bowlwyr sy’n chwarae mewn prawf yn chwarae mewn gêm yn Abertawe ar ôl hynny. Ond ro’dd y ddau ohonyn nhw’n chwarae. Ro’dd y ddau ohonyn nhw’n bowlio’n gyflym iawn.”
Roedd Griffith a Hall wedi achosi anawsterau i un o fawrion y byd criced yn Lloegr, Brian Close, ar daith flaenorol India’r Gorllewin i Loegr yn 1963. Gadael i’w gorff fod yn darian oedd ateb Close i gyflymdra’r bowlwyr, cymaint felly nes bod y llun ohono’n gleisiau du a glas wedi’i anfarwoli bellach. Ond roedd amheuon wedi’u codi am ddull bowlio Griffith. Cafodd y gŵr o ynys Barbados ei gyhuddo o daflu’r bêl yn anghyfreithlon ac fe gafodd hynny ei brofi. Aeth ati wedyn i gywiro’i ddull bowlio. Trwy gywiro’i ddull, fe fyddai’n colli ychydig o’i gyflymdra.
“Bob amser rwyt ti’n chwarae yn erbyn rhywun sy’n bowlio’n gyflym fel y ddau yna, yn dy feddwl, rwyt ti ychydig bach yn nerfus,” meddai Alan Jones. “Ond siwrne ti’n cael dechrau, os galli di sefyll mewn am ryw hanner awr neu dri chwarter awr, mae pethau’n dod tipyn bach yn fwy rhwydd. Ond rhaid dweud, dyna’r ddau fowliwr mwya cyflym o’n i wedi chwarae yn eu herbyn erioed.”
Er yr ymdrechion gan Griffith i gywiro’i ddull, roedd yn parhau i daflu ambell i belen o hyd, yn ôl Alan Jones.
“Pan oedd e’n bowlio pelen fer, roedd e’n plygu’i fraich ac roedd yn galed iawn i bigo’r bêl lan wrth fatio yn ei erbyn e. O’r ddau, ro’n i’n meddwl bod Charlie Griffith yn fwy caled i chwarae yn ei erbyn e na Wes Hall oherwydd bod e’n towlu ambell i bêl. Doedd e ddim yn trial gwneud hynny, dyna fel o’dd e wedi bowlio erioed. Dwi’n cofio siarad gyda Ken Barrington, o’dd yn chwarae i Loegr, ac roedd e’n dweud yr un peth.”
Beth, felly, oedd cyfrinach Alan Jones wrth iddo wrthsefyll her y ddau brif fowliwr cyflym cyn mynd ymlaen i sgorio 161 heb fod mas?
“Rwyt ti’n trio gwneud popeth tipyn mwy cyflym nag wyt ti’n arfer gwneud. Rwyt ti’n trio symud tipyn mwy cyflym nag wyt ti’n symud yn erbyn unrhyw sir. Beth oedd yn galed yn Abertawe wrth chwarae yn erbyn Charlie Griffith a Wes Hall – Wes Hall oedd y cyflyma o’r ddau – oedd fod shwd action dda gyda Wes Hall.”
Ar ôl cael y gorau ar Griffith a Hall ar ddechrau’r batiad cyntaf, cariodd Alan Jones ei fat wrth i Forgannwg sgorio 337-8 cyn cau’r batiad. Cipiodd Griffith a Hall wiced yr un – y naill yn cipio wiced Bernard Hedges a’r llall yn cael y gorau ar Roger Davis. Yn eu batiad cyntaf, cafodd India’r Gorllewin eu bowlio am 193 i roi blaenoriaeth o 144 i Forgannwg. Ymestynnodd Morgannwg eu mantais i 197 wrth sgorio 53-2 cyn cau eu hail fatiad, a Wes Hall wedi cipio’r ddwy wiced. Gyda nod o 198 i ennill, daeth y glaw i roi terfyn ar yr ornest ac ar ddiweddglo cyffrous, wrth i India’r Gorllewin gyrraedd dim ond 33-2.
Roedd 98,000 o bobol yn Wembley i weld Lloegr yn ennill Cwpan y Byd. Ychydig filoedd oedd yng nghae San Helen i wylio’r Cymro Cymraeg o Felindre’n ychwanegu ei enw ei hun at ein llyfrau hanes ninnau yr ochr yma i Bont Hafren. Ac fe fyddai honno’n agor yn swyddogol gwta bum wythnos yn ddiweddarach.