Harry Wilson
Mae Lerpwl wedi cyhoeddi fod y Cymro 19 mlwydd oed Harry Wilson wedi arwyddo estyniad i’w gytundeb presennol gyda’r clwb.
Wilson yw’r chwaraewr ieuengaf i chwarae gêm ryngwladol i Gymru wrth iddo dorri record Gareth Bale ym mis Hydref 2013 tra yn 16 mlwydd oed.
Roedd y gŵr o Wrecsam wedi treulio dechrau’r tymor diwethaf ar fenthyg gyda chlwb Mk Dons yng Nghyngrair Un Lloegr. Fe ymddangosodd i’r tîm cyntaf saith gwaith yn ei amser gyda’r clwb. Ond fe gafodd ychydig o anlwc yn ail hanner y tymor wrth gael anaf a cholli nifer o’r gemau.
Fe ymunodd yr asgellwr gyda Lerpwl yn wyth oed, ond mae dal yn aros am ei gyfle i serennu yn nhîm cyntaf Jürgen Klopp.
Bu’n agos i wneud y tîm cyntaf dan Brendan Rodgers, ar daith y tîm cyntaf i Asia ac Awstralia yn 2015, ar ôl cael ei enwi mewn carfan o 30 gan y Gwyddel.
Mae Wilson yn chwarae gyda thîm dan-23 Lerpwl, ac yn amlwg yn hapus yn cael ymestyn ei gytundeb, wrth iddo drydaru’r neges hon ddoe: ‘Yn falch iawn ar ôl arwyddo cytundeb newydd gyda @LFC , mae’r gwaith caled yn parhau’.
Mae Harry Wilson yn gyn-ddisgybl o Ysgol Dinas Brân yn Llangollen sydd yn cyfeirio at ei gyd-chwaraewr, Phillipe Coutinho, fel ei arwr presennol. Mae’n hawdd cymharu’r ddau chwaraewr wrth iddyn nhw feddu ar dalentau tebyg o fewn y byd pêl-droed.
Tomos Rhys Jones