Mewn cyfweliad arbennig â gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers, y bowliwr cyflym o Dde Affrica, Dale Steyn sy’n edrych yn ôl ar ei gyfnod byr yn chwarae i Glwb Criced Morgannwg yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast, ac yn pwyso a mesur gobeithion y sir ar gyfer gweddill y gystadleuaeth.
Wrth ddod i mewn i’r tîm, roeddech chi’n nabod rhai o’ch cydwladwyr o Dde Affrica. Faint o gymorth oedd hynny wrth i chi ymgartrefu ym Morgannwg?
Ar unwaith, wrth gerdded i mewn i’r stafell newid a gweld wynebau cyfarwydd, ry’ch chi’n teimlo bod croeso i chi. Wnes i gerdded allan ar gyfer y sesiwn hyfforddi gyntaf ac fe wnaethon ni ddechrau gyda rhywfaint o bêl-droed ac ro’n i yn ei chanol hi. Erbyn y gêm gyntaf yn erbyn Swydd Essex, ro’n i’n lled nabod pawb ac yn teimlo’n gartrefol. Dyna ry’ch chi am ei deimlo. Ry’ch chi am gerdded i mewn i’r stafell newid a theimlo’n gartrefol ar unwaith. Mae’n eich helpu chi i berfformio ar y cae ac mae’r pedair wythnos diwethaf wedi bod yn wych. Dw i wedi bod allan am ginio gyda’r bois, wedi treulio amser gyda nhw rhwng y gemau undydd a’r gemau pedwar diwrnod. Mae wedi bod yn gyfnod pleserus iawn.
Ydy hi’n anodd ymgartrefu wrth ddod i mewn am gyfnod mor fyr?
Fe all fod, am wn i. Mae’n dibynnu ar yr unigolyn. Dw i wir yn mwynhau criced, dw i’n hoffi gwylio criced. Ar fy niwrnodau i ffwrdd pan nad o’n i’n rhan o’r tîm undydd neu’r tîm pedwar diwrnod, ro’n i’n dod i wylio beth bynnag. Dw i ond yn byw i lawr y ffordd, felly fe ddes i i gefnogi’r bois a’u gwylio nhw’n chwarae, a dw i’n credu eu bod nhw wedi gwerthfawrogi hynny. Do’n i ddim yn ei wneud e am unrhyw reswm arall, dw i jyst yn mwynhau’r gêm. Fe ddes i i wylio’r tîm dw i wedi bod yn chwarae iddyn nhw. Fe wnaethon nhw chwarae’n dda iawn. Mae’n bwysig dangos bod ots gyda chi amdanyn nhw. Dw i’n credu eu bod nhw wedi gwerthfawrogi hynny.
Pwy o blith y bechgyn o Gymru sydd wedi creu argraff arnoch chi?
Pob un ohonyn nhw. Y ‘Don’, Aneurin Donald. Mae e’n anhygoel. Dw i’n credu bod ganddo fe ddyfodol disglair o’i flaen e, pan fydd e’n gallu troi’r 40au yn 80au a’r hanner canred yn ganred, yn enwedig yn y T20. Mae 100 yn sgôr mawr, felly os gall e gael 80au heb fod allan a gorffen gemau, mae e’n mynd i ddenu cryn dipyn o sylw.
Gwnaeth batiad David Lloyd y noson o’r blaen [97 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaint] agor ein llygaid, yn sicr. Mae’n debyg ei fod e wedi batio’n nawfed ar ryw adeg yn y gemau pedwar diwrnod. Felly mae’n anhygoel unwaith ry’ch chi’n rhoi cyfle i rywun a dangos rhywfaint o ffydd, beth maen nhw’n gallu ei wneud.
Mae Dean Cosker, yn 38 oed, yn dal i neidio o gwmpas wrth faesu’n agos ac yn taflu ei gorff o gwmpas. Mae’n eithaf ysbrydoliaeth cael gwylio’r math yna o beth.
A all Morgannwg fod yn bencampwyr T20?
Dw i’n credu y gallan nhw fod, y ffordd maen nhw’n chwarae ar hyn o bryd. Mae pawb yn cyfrannu. Mae’r capten yn arwain yn dda. Mae angen hynny arnoch chi. Mae angen capten arnoch chi sy’n gallu newid y bowlwyr yn y modd cywir, ac sy’n ddigon dewr i wneud penderfyniad anodd drwy anfon rhywun i mewn i fatio yn lle’r batiwr arferol.
Mae Colin [Ingram] yn batio’n dda iawn, os oes modd cynnal hynny. Gall y nifer o gemau sy’n cael eu chwarae fod yn anodd. Ond rhaid i chi geisio cynnal y perfformiadau. Yn y gystadleuaeth hon yn enwedig, mae’r bois yn edrych fel tîm hapus. Maen nhw’n chwarae’n dda iawn. Maen nhw’n gwybod ym mle maen nhw’n ffitio i mewn. Man nhw’n gallu mynd allan a pherfformio, ac fe ddangoson nhw hynny dros y pedair wythnos diwethaf. Dw i’n credu eu bod nhw wedi ennill pump allan o’r chwech gêm wnes i chwarae ynddyn nhw, ac fe allen nhw yn hawdd iawn fod wedi ennill y gêm gyntaf hefyd. Mae hwn yn dîm sy’n sicr yn gallu ennill y gystadleuaeth hon.
Sut fyddech chi’n crynhoi eich amser byr yma yng Nghymru?
Tipyn o hwyl, fyddwn i’n dweud. Pan y’ch chi yn yr IPL [yn India], mae tipyn o ymarfer, tipyn o deithio. Wnes i ddim cael mynd ar y cae ryw lawer, sy’n iawn. Dw i wedi bod yn chwarae yn yr IPL ers naw mlynedd felly mae hynny’n iawn. Dw i eisiau chwarae ond dw i’n deal deinameg y tîm a faint o chwaraewyr [o dramor] sy’n cael chwarae. Ond fe ddes i yma, cael llawer iawn o hwyl, fe ges i’r bêl yn fy llaw heb fod unrhyw un yn dweud wrtha’i beth i’w wneud. Fe ddywedon nhw, ‘Rwyt ti wedi bod yn fan hyn o’r blaen, rwyt ti’n gwybod beth i’w wneud. Gwna fe!’ Roedd yn braf cael y fath gefnogaeth. Gwnaeth pawb ffitio o ‘nghwmpas i, gwnes i ffitio o gwmpas pawb arall. Fe ges i dipyn o hwyl. Dw i hyd yn oed yn edrych ymlaen at gael dod nôl yma ryw ddiwrnod o bosib.
Ond cyn hynny, i’r Caribî fyddwch chi’n mynd nesaf…
Ie, dw i’n rhewi wrth i fi sefyll yma! Dw i ddim yn gyfarwydd â hyn! Yn yr IPL, roedd hi’n 45 gradd ac yna, dw i’n cyrraedd fan hyn ac mae hi’n eithaf oer. Ond roedd y pythefnos cynta’n braf – tywydd siorts a chrys-T ond dros y pythefnos neu dair wythnos diwethaf, hwdi, trowsus hir ac esgidiau amdani! Felly dw i’n edrych ymlaen at fynd draw i’r Caribî a chael mynd i’r traeth. Dyna fy mywyd i, dyna beth dw i’n ei fwynhau.