Gareth Bale yn dathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn Gogledd Iwerddon (Llun: PA)
Mae seren tîm pêl-droed Cymru, Gareth Bale wedi dweud bod y tîm yn hyderus wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer rownd wyth olaf Ewro 2016 yn Ffrainc.

Roedd Bale yn allweddol yn y gôl a sicrhaodd le i Gymru yn y rownd nesaf ar ôl i Gareth McAuley anfon y bêl i’w rwyd ei hun wrth amddiffyn ar ôl 75 munud.

Bydd Cymru’n herio naill ai Hwngari neu Wlad Belg yn y rownd nesaf ddydd Gwener, ac mae Bale yn hyderus fod ganddyn nhw fomentwm o’u plaid.

“Mae’n debyg i gymhwyso, ry’ch chi’n cael un fuddugoliaeth ac mae’r hyder yn tyfu.

“Ry’n ni’n hyderus iawn ar hyn o bryd, ry’n ni’n gwybod ein bod ni wedi cael gemau anodd.

“Ond wnaethon ni frwydro, dangos yr ysbryd a’r angerdd sydd yn y tîm ac ry’n ni am barhau i fod ar frig y don.

“Fe wnawn ni barhau i weithio’n galed a gweld pa mor bell allwn ni fynd.”

Bydd Hwngari a Gwlad Belg yn herio’i gilydd yn Toulouse nos Sul, ac mae Bale yn disgwyl gêm anodd yn erbyn y naill neu’r llall.

“Mae Hwngari wedi bod yn dda iawn yn y twrnament hwn, ond ry’n ni fwy na thebyg yn gwybod mwy am Wlad Belg gan eu bod nhw wedi bod yn ein grwpiau rhagbrofol y ddau dro diwethaf.

“Bydd y naill gêm neu’r llall, pwy bynnag fyddan ni’n herio, yn anodd.”

Ar ôl dathlu’r fuddugoliaeth brynhawn dydd Sadwrn gyda’i ferch dair oed Alba Violet, dywedodd Bale: “Mae’r teimlad yn anodd i’w ddisgrifio, hapus iawn, emosiynol iawn.

“Roedd cael ei rannu gyda fy merch a fy nheulu yn emosiynol i fi. Do’n i ddim wedi’u gweld nhw ers pedair neu bum wythnos.

“Roedd yn brofiad anhygoel na fydda i fyth yn ei anghofio.”