Alun Rhys Chivers
Mae tîm criced Morgannwg yn dal i chwilio am eu buddugoliaeth gynta’r tymor hwn ar ôl dechrau mor siomedig yn y Bencampwriaeth. Gohebydd Golwg360 Alun Rhys Chivers sy’n edrych ymlaen at eu gêm agoriadol yn erbyn Swydd Surrey ar gae’r Oval nos Iau.
Allai amseru dechrau cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast ddim bod yn well i Forgannwg ar ôl dechrau mor siomedig i’r tymor yn y Bencampwriaeth. Un o’r cwynion yn gyson y tymor diwethaf oedd bod strwythur y cystadlaethau’n golygu nad oedd modd canolbwyntio ar un gystadleuaeth ar y tro. Ond fydd dim modd defnyddio’r un esgus eleni ar ôl i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr benderfynu grwpio’r gemau’n flociau.
Bydd Morgannwg yn sicr yn edrych am welliant yn y gystadleuaeth eleni ar ôl methu â chyrraedd yr wyth olaf y tymor diwethaf, ond mae ganddyn nhw record reit dda ar yr Oval yn y T20 – yn wir dydyn nhw erioed wedi colli ar y cae hwnnw yn hanes y gystadleuaeth ugain pelawd. Hon, i fi, oedd gêm orau’r tymor y llynedd ar ôl i’r capten Jacques Rudolph a’i gydwladwr Colin Ingram adeiladu partneriaeth o 141 mewn deuddeg pelawd i sicrhau cyfanswm o 240 sy’n record i Forgannwg yn y gystadleuaeth hon. Ac fe sgoriodd Rudolph 75 yn y gêm ar yr Oval ddau dymor yn ôl. Mae dirfawr angen rhediadau ar y capten, a dyma’i gyfle gorau i anghofio’r dechrau gwael gafodd e i’r tymor pedwar diwrnod.
Hwb i Forgannwg fydd gweld Ingram yn dychwelyd i’r garfan wedi anaf i’w ben-glin. Er y cyffro, rhaid bod yn ofalus nad yw’r anaf yn cael ei gwaethygu – mae Ingram eisoes wedi dweud ei fod e wedi gohirio llawdriniaeth er mwyn cael dychwelyd i Gymru am ran helaeth o’r tymor.
Bydd rhaid aros ychydig yn hirach cyn y gwelwn ni un o fowlwyr gorau’r byd, Dale Steyn yng nghrys Morgannwg. Mae yntau ynghlwm wrth dîm Gujarat yn yr IPL yn India – ond fe fydd Morgannwg wedi deall fod natur fyd-eang y gêm ugain pelawd yn golygu na allwch chi ddisgwyl i’r sêr fod ar gael am gystadleuaeth gyfan.
Y rhod – a’r llain – yn troi
Beth bynnag am y bowlwyr cyflym, noson i’r troellwyr fydd hi heno ar yr Oval, ac fe fydd Morgannwg yn cael hwb ychwanegol o weld y troellwr llaw chwith dibynadwy, Dean Cosker yn dychwelyd i’r garfan. Fe gipiodd y bowliwr 38 oed wyth wiced yn erbyn Swydd Surrey y tymor diwethaf, ac mewn gêm lle mae pob rhediad yn cyfri, fe fydd Morgannwg yn falch o’i weld e nôl yn y maes hefyd. Mae’n gyfle hefyd i’r troellwr cymharol ifanc Andrew Salter, a phe bai’r llain yn troi go iawn, mae gan Forgannwg yr opsiwn o alw ar y capten Rudolph neu Ingram am ychydig belawdau o droelli coes.
Fe allai hynny, wrth gwrs, olygu na fydd un o’r bowlwyr cyflym yn cael chwarae. Mae angen sgiliau amryddawn Graham Wagg a Craig Meschede, felly mae’n debygol mai un ai Michael Hogan neu Timm van der Gugten fydd yn colli allan. Gallai fod yn gyfle i orffwys y prif fowliwr Hogan, ond mae van der Gugten wedi rhoi pen tost o’r math orau i’r dewiswyr ar ôl cipio saith wiced yn erbyn Swydd Essex yn y Bencampwriaeth yr wythnos hon.
Ond beth am y gwrthwynebwyr?
Swydd Surrey yw Chelsea neu Man City y byd criced. Mae’r garfan yn frith o sêr. Fe fyddai cael gweld Dwayne Bravo ar yr Oval wedi bod yn hwb sylweddol i’r Llundeinwyr ond hyd yn oed yn ei absenoldeb yntau (un arall o giwed yr IPL), mae ganddyn nhw Kumar Sangakkara, Azhar Mahmood a Jason Roy. Yn eu cefnogi nhw wedyn mae’r brodyr Curran a Zafar Ansari, wnaeth gynnig un o ddigwyddiadau siampên y tymor pedwar diwrnod y llynedd wrth redeg Chris Cooke allan gyda thafliad o 75 llathen yng Nghaerdydd.
Un peth sy’n sicr ar yr Oval. Fe fydd galw’n gywir a gwneud y penderfyniad iawn ar ddechrau’r noson yn allweddol. Mae 14 allan o’r 18 gêm ugain pelawd ddiwethaf wedi’u hennill gan y tîm a fatiodd yn ail. Ond mi fydd hi’n gêm wahanol o dan y llifoleuadau heno, wrth gwrs. Bydd y seiliau ar gyfer gweddill y gystadleuaeth yn cael eu gosod heno, felly mae sicrhau buddugoliaeth i Forgannwg yn hanfodol.
Gwyliwch y cyfan yn fyw ar Sky Sports am 6.30!