Mae Morgannwg wedi colli’r cyfle i sicrhau eu buddugoliaeth gynta’r tymor hwn – a’u buddugoliaeth gyntaf dros bedwar diwrnod ar eu tomen eu hunain ers 18 mis.

Daeth eu gornest yn erbyn Swydd Essex yn ail adran y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd i ben yn gyfartal.

Roedd yr ymwelwyr wedi cyrraedd 160-5 erbyn diwedd y pedwerydd diwrnod ar ôl i Forgannwg osod nod o 334.

Rhaid cwestiynu amseru penderfyniad y capten Jacques Rudolph i gau’r batiad, gan iddo adael ychydig dros ddwy sesiwn yn unig i fowlio’r ymwelwyr allan ar y diwrnod olaf.

Collodd Swydd Essex dair wiced yn gynnar yn eu batiad, ond llwyddon nhw i achub yr ornest yn sgil batio dygn Jesse Ryder (25 heb fod allan) a’r capten Ryan ten Doeschate (22 heb fod allan).

Crynodeb

Ar ôl penderfynu bowlio’n gyntaf, llwyddodd yr ymwelwyr i fowlio Morgannwg allan am 260 yn eu batiad cyntaf wrth i Graham Napier gipio pum wiced am 82 ar lain oedd  yn cynnig cryn gymorth i’r bowlwyr.

Dim ond Chris Cooke (63) a lwyddodd i sgorio mwy na hanner cant yn y batiad a dim ond trwy gyfraniadau gan y bowlwyr Andrew Salter (45) a Craig Meschede (33) y gwnaethon nhw sicrhau cyfanswm parchus.

Timm van der Gugten, bowliwr cyflym rhyngwladol yr Iseldiroedd, oedd seren Morgannwg wrth iddo gipio pum wiced am 90 – ei ffigurau gorau i Forgannwg yn y Bencampwriaeth wrth i Swydd Essex ymateb gyda 313 yn eu batiad cyntaf, gan adeiladu blaenoriaeth o 53.

Tom Westley (80) a Ravi Bopara (80) oedd y prif sgorwyr i’r ymwelwyr a daeth y capten Ryan ten Doeschate o fewn dau rediad i hanner canred.

Llwyddodd Morgannwg i ddod yn gyfartal yn gyflym iawn ar ddechrau eu hail fatiad wrth iddyn nhw geisio adeiladu blaenoriaeth swmpus.

Ac eithrio Jacques Rudolph, dangosodd batwyr Morgannwg gryn addewid ar ôl dechrau cymharol siomedig i’r tymor, ac roedd partneriaethau o 107 rhwng Mark Wallace (40) a Will Bragg, 106 rhwng Chris Cooke (59) a Bragg, a 117 rhwng Aneurin Donald (55) a Bragg yn allweddol wrth i’r Cymry orffen eu batiad ar 386-8, a Bragg yntau’n sicrhau ei gyfanswm dosbarth cyntaf unigol gorau erioed o 161 heb fod allan, gan guro’i 129 oddi cartref yn erbyn Swydd Derby fis diwethaf.

Ond gellid dadlau bod Morgannwg wedi batio’n rhy hir yn y pen draw ac nad oedd digon o amser i fowlio’r ymwelwyr allan wrth iddyn nhw gwrso 334 am y fuddugoliaeth.

Roedd y wicedi cynnar yn arwydd bod digon o gymorth yn y llain o hyd i’r bowlwyr wrth i’r ornest dynnu tua’i therfyn, ac fe fydd Morgannwg yn siomedig na lwyddon nhw i fanteisio’n llawn ar hynny i sicrhau yr hyn a fyddai wedi bod yn fuddugoliaeth werthfawr iawn gyda thraean o’r tymor eisoes wedi mynd heibio.

Amser yn unig a ddengys a all y capten Jacques Rudolph godi ei dîm pan fydd y gemau pedwar diwrnod yn ail-ddechrau ganol mis Mehefin.

Am y tro, byddan nhw’n troi eu sylw at gemau 20 a 50 pelawd dros y tair wythnos nesaf cyn croesawu Swydd Gaint i Gaerdydd ar Fehefin 19 i ail-gydio yn y Bencampwriaeth.