Mae timau criced Cymru wedi parhau gyda’u haf llwyddiannus, gyda thimau ar draws grwpiau oedran gwahanol yn mwynhau buddugoliaethau.
Dan 11 oed
Curodd tîm dan 11 Cymru dîm cadarn o Swydd Gaint, gyda Frank MacDonald, o Ogledd Ddwyrain Cymru’n cipio 3-5, sef y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm ar ddiwedd y dydd.
Yna cawsant dair buddugoliaeth arall. Y gyntaf yn erbyn Swydd Essex, lle bowliodd Cymru’n dda gan ennill yn hawdd o 38 rhediad. A phan wynebon nhw Ysgolion Llundain, serennodd Ben Kellaway o Went (2-18 a 34) gyda’r bat a’r bêl i sicrhau buddugoliaeth o ddwy wiced. Ben Mulcahy (3-9) o Gaerdydd a’r Fro a sicrhaodd drydedd fuddugoliaeth y mis i dîm dan 11 Cymru yn erbyn tîm cryf o Swydd Gaerwrangon.
Ond yna collwyd gemau yn erbyn Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog, er gwaethaf perfformiadau gwych gan Alex Horton o Went yn y ddwy gêm. Cafodd y sgôr uchaf gyda 43 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaerhirfryn a 62 yn erbyn Swydd Efrog.
Yna cafodd tîm dan 11 Cymru eu trechu ddwywaith yn rhagor gan Swydd Gaer a Gwlad yr Haf. Ond daeth eu cyfnod hesb i ben yn erbyn Swydd Warwick, gyda sgôr ardderchog Horton o 81 yn selio’r fuddugoliaeth. Parhaodd Horton i chwarae ar ei orau yn ystod y gêm nesaf, a gollwyd yn erbyn Swydd Efrog, gan dorri’r record gyda sgôr o 113 heb fod allan, cyn bwrw 167 heb fod allan i arwain Cymru i fuddugoliaeth bendant dros Swydd Stafford. Daeth â’i fis i ben yn erbyn Swydd Gaerloyw, gan fwrw 51 heb fod allan i arwain Cymru i fuddugoliaeth.
Dan 12 oed
Cafodd tîm dan 12 Cymru set o ganlyniadau da hefyd. Yn ystod eu gêm yn erbyn Swydd Gaerwrangon, cawsant eu bowlio allan am 117 yn unig ond mewn ymateb, bowliodd Joe Westwood o Went (4-14) a Luc Rees o Orllewin Morgannwg (4-18) Gymru i fuddugoliaeth o 43 rhediad. Yna dilynodd tîm dan 12 Cymru hyn gyda buddugoliaeth bendant yn erbyn Swydd Rydychen, gan eu bowlio allan am 69 yn unig.
Aeth tîm dan 12 Cymru ymlaen i gael eu trechu ddwywaith, y tro cyntaf yn erbyn Swydd Middlesex, wedi i fatwyr Cymru frwydro’n galed yn erbyn troellwyr y gwrthwynebwyr, ac yna yn erbyn Swydd Surrey mewn gêm isel ei sgôr.
Dan 13 oed
Dechreuodd tîm dan 13 Cymru eu mis drwy gael eu trechu mewn gêm isel ei sgôr yn erbyn Swydd Hampshire. Gan fowlio’n gyntaf, gweithiodd Cymru’n galed i gyfyngu’r ymwelwyr i 133, ond mewn ymateb, cafodd Cymru eu bowlio allan am 96 yn unig.
Fodd bynnag, daeth llwyddiant i’w rhan wedi hynny, gyda buddugoliaeth yn erbyn Swydd Gaerhirfryn. Arweiniodd Morgan Bevans (64) o Went a Ryan Scrivens (31), hefyd o Went, dîm Cymru i gyfanswm buddugol o 192.
Dan 17 oed
Cafodd tîm dan 17 Cymru dair buddugoliaeth. Roedd y gyntaf yn erbyn Brigâd Dân Prydain, gyda Chymru’n sgorio 235, gyda chymorth sgôr o 72 gan yr agorwr, Joe Voke o Went. Yna, mewn gêm uchel ei sgôr, llwyddodd Cymru i drechu Swydd Gaerloyw, gyda Sam Pearce o Forgannwg Ganol (69) a Voke (52) yn arwain Cymru i fuddugoliaeth o bum wiced. Roedd y drydedd fuddugoliaeth yn erbyn Dyfnaint, gyda 164 heb fod allan gwych gan Steffan Roberts o Forgannwg Ganol yn arwain tîm dan 17 Cymru at 302 a buddugoliaeth ar ddiwedd y dydd.
Ar ffurf hirach y gêm, roedd tîm dan 17 Cymru’n gyfartal â Swydd Gaerloyw, ond collon nhw i Swydd Hampshire yn eu batiad cyntaf, ac yn erbyn Dyfnaint.
“Rydym wedi cael rhai canlyniadau positif iawn dros y mis diwethaf,” meddai rheolwr perfformiad Criced Cymru, John Derrick. “Bu rhai o’r perfformiadau unigol yn wirioneddol wych.”
Criced Cymru yw’r corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer criced iau a chriced hamdden hŷn yng Nghymru. Mae’n gweithio’n agos â Chlwb Criced Morgannwg, sy’n llywodraethu gêm broffesiynol y dynion. Am wybodaeth ewch i: www.cricketwales.org.uk