Y diweddar Danny Jones
Bydd gweddw Danny Jones yn perfformio’r emyn traddodiadol ‘Abide With Me’ cyn rownd derfynol cystadleuaeth Cwpan Her Rygbi’r Gynghrair rhwng Hull a Leeds eleni.

Collodd Lizzie Jones – sy’n gantores broffesiynol – ei gŵr Danny ar ôl iddo syrthio i’r ddaear wrth chwarae i Keighley ym mis Mai oherwydd clefyd y galon etifeddol oedd heb ei ddiagnosio.

Roedd gan y pâr efeilliaid ac mae cronfa i’r ddwy ferch fach wedi casglu dros £230,000.

Bydd perfformiad Lizzie Jones yn Wembley ar Awst 29 yn ei gweld yn perfformio ar yr un cae a wnaeth ei chyn ŵr yn erbyn Seland Newydd yn 2011.