Mike Phillips - ddim yn y garfan hyfforddi
Mae James Hook, Mike Phillips a Richard Hibbard wedi cael eu rhyddhau o garfan hyfforddi Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.

Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru y bydd wyth o chwaraewyr yn dychwelyd i’w clybiau, gyda’r triawd enwog – sydd â 209 o gapiau rhyngddynt – yn mynd yn ogystal a Jack Dixon, Rhys Patchell, Nicky Smith, Rory Thornton a Dan Baker.

Bydd cyfanswm o 38 o chwaraewyr yn dychwelyd i hyfforddi gyda’r tîm cenedlaethol ddydd Llun i barhau â pharatoadau Cwpan y Byd.