Stadiwm y Mileniwm - Awstralia ddim yn ffansïo brwydr yn fan hyn!
Mae hi wedi dod i’r amlwg fod Awstralia wedi gorfod brwydro i beidio â gorfod chwarae Cymru yng Nghaerdydd yng Nghwpan Rygbi’r Byd ym mis Hydref.
Er mai Lloegr yw tîm cartref swyddogol y bencampwriaeth, bydd nifer o gemau yn cael eu cynnal yn Stadiwm y Mileniwm, gan gynnwys gemau Cymru yn erbyn Fiji a Uruguay.
Er fod Cymru wedi gwneud achos masnachol i ddod a gêm Awstralia i Gaerdydd yn lle’r gêm rhwng Ffrainc ac Iwerddon, llwyddodd John O’Neill, cyn brif weithredwr Undeb Rygbi Awstralia ac aelod o fwrdd Cwpan y Byd, i ddadlau yn erbyn y symudiad.
Dywedodd John O’Neill wrth bapur newydd The Times heddiw: “Fy mhwynt i oedd mai dim ond un tîm cartref swyddogol sydd, felly dim ond un tîm ddylai gael manteision chwarae gartref.
“Yr egwyddor oedd sicrhau bod pob tîm sy’n ymweld yn cael eu trin yn gyfartal, ond mae’r canlyniad yn un da.”
Gallai’r gêm rhwng Cymru ac Awstralia fod o bwys mawr gan fod Grŵp A yn cynnwys Cymru, Lloegr ac Awstralia – gyda dim ond dau dim yn cael mynd drwodd i’r chwarteri.
Bydd Cymru ac Awstralia yn chwarae yn erbyn eu gilydd yn Twickenham ar 10 Hydref.