Eva Carneiro - y meddyg wedi'i beirniadu gan Mourinho
Mae rheolwr Chelsea, Jose Mourinho wedi cael ei feirniadu am y ffordd yr oedd wedi trin aelod o’i staff meddygol yn dilyn eu gêm yn erbyn Abertawe dros y Sul.

Roedd ei ymddygiad yn “warthus” ar ôl gêm yn erbyn Abertawe dros y Sul, meddai meddyg chwaraeon rhyngwladol.

Roedd wedi beirniadu aelodau o’i staff meddygol ac fe ddylai ymddiheuro am hynny, meddai Peter Brukner, meddyg gyda thîm criced Awstralia.

Y digwyddiad

Dim ond naw dyn oedd gan Chelsea ar y cae tua diwedd y gêm yn Stamford Bridge wrth i un chwaraewr gael triniaeth ac ar ôl i un arall gael ei anfon o’r cae.

Daeth y ffisiotherapydd Jon Fearn a’r meddyg Eva Carneiro ymlaen i drin Eden Hazard ac fe fu’n rhaid i’r chwaraewr adael y cae.

Dangosodd Mourinho ei ddicter o’r ystlys, ac fe ddywedodd wrth y cyfryngau bod y penderfyniad i drin Hazard ar unwaith yn “fympwyol ac yn naïf”.

Fe gyhuddodd y ddau aelod o’r staff meddygol o fethu â deall y gêm.

‘Gwarthus’ – y feirniadaeth

Ers y ffrae, mae Mourinho wedi adolygu trefniadaeth ei staff meddygol, ac fe ddaeth i’r penderfyniad i dorri ar gyfrifoldebau Eva Carneiro.

Ond mae’r arbenigwr meddygol Peter Brukner wedi dweud y dylai Mourinho ymddiheuro wrth y ddau.

“Dw i’n credu bod ymddygiad y rheolwr yn warthus,” meddai.  “Mae chwaraewr wedi mynd i lawr ac mae e wedi aros ar lawr, ac roedd y dyfarnwr yn amlwg yn credu ei fod yn ddigon difrifol i alw’r meddyg a’r ffisiotherapydd.”

‘Iechyd a diogelwch yn gynta’

Ychwanegodd Brukner wrth siarad â talkSPORT: “Efallai y dylai feirniadu ei chwaraewr am aros ar lawr yn hytrach na beirniadu’r staff meddygol.

“Mae’r staff meddygol yn haeddu ymddiheuriad a dw i’n siomedig iawn nad yw’r clwb wedi dod allan a gwneud rhywbeth i’w cefnogi nhw – dim ond gwneud eu gwaith oedden nhw.

“Ein blaenoriaeth ni fel meddygon a ffisiotherapyddion yw iechyd a diogelwch y chwaraewr unigol, a dyna roedden nhw’n ei wneud.”

Fe fu Carneiro yn feddyg gyda Chelsea ers mis Chwefror 2009 ond mae’r clwb wedi gwrthod rhoi sylw