Russell Slade (Jon Candy CCA 2.0)
Mae rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, Russell Slade yn gobeithio y bydd eu buddugoliaeth yng Nghwpan Capital One neithiwr yn sbarduno’r tîm yn y gynghrair.

Mae’r Adar Gleision wedi cyrraedd yr ail rownd ar ôl curo AFC Wimbledon o 1-0, ar ôl i Craig Noone rwydo o gic rydd cyn yr egwyl.

Daeth nifer o gyfleoedd i ran Caerdydd, wrth i Lyle Taylor fethu gyda dwy ymdrech, tra bod yr eilydd Tom Elliott wedi taro’r trawst gyda pheniad yn y munudau olaf.

‘Momentwm’

“Dw i wrth fy modd i gael ein buddugoliaeth gynta’r tymor hwn,” meddai Russell Slade. “Mae’r rownd gyntaf bob amser yn anodd mor gynnar yn y tymor.

“Mae clybiau’n gwneud newidiadau fel gwnaethon ni at y gêm hon ac mae’n golygu nad yw’r cyfan yn llifo, ac roedd hynny’n eisiau ar adegau.

“Ond momentwm sy’n bwysig ar hyn o bryd. Roedd gyda ni fomentwm, dw i’n credu, tua diwedd y tymor diwethaf ac mae e gyda ni nawr.”

Canmol Craig

Roedd Slade yn barod i ganmol Craig Noone yn dilyn ei gôl fuddugol.

“Roedd yn gic rydd dda gan Craig, mae e’n chwaraewr o ansawdd uchel ac mae e’n ceisio parhau i ddangos hynny i ni.

“Fe gafodd ei gysylltu â throsglwyddiad oddi yma adeg y Nadolig ond rydych chi bob amser am gadw eich chwaraewyr gorau, ac mae e’n un o’r rheiny.”