George North (Joe Giddens/PA)
Mae’n edrych yn debygol y bydd yr asgellwr George North yn ffit ac yn barod ar gyfer ymgyrch Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

Fe ddaeth y chwaraewr 23 oed trwy sesiwn lawn gyhoeddus o hyfforddiant ym Mae Colwyn ddoe ac mae’n bosib y bydd yn chwarae yn o leia’ un o’r ddwy gêm baratoi sydd ar ôl.

Roedd 4,000 o bobol yn gwylio’r ymarfer ym Mharc Eirias, gyda North yn cymryd rhan mewn sesiwn gorfforol lawn.

Mae wedi bod ar yr ymylon ers cael ei daro’n anymwybodol mewn gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Fe fydd sgwad Cymru’n cael ei dorri o 46 i 36 yn nes ymlaen yr wythnos yma, ac yna i lawr i’r 31 terfynol erbyn diwedd y mis.

‘Hwb i bawb’

Mae cael George North yn ôl wedi rhoi hwb i bawb, meddai hyfforddwr blaenwyr Cymru, Robin McBryde, ac mae’r capten, Sam Warburton, hefyd wedi croesawu’r newyddion.

“Ef yw un o’n chwaraewyr sydd â rhywbeth ychwanegol,” meddai. “Yn fy marn i,  mae’n un o’r chwaraewyr gorau yn y byd.

“Yn athletaidd, mae mewn cyflwr ffantastig ar hyn o bryd a dw i’n siŵr y gwelwn ni George ar ei orau yn ystod y misoedd nesa’.”